Lansiwyd cofrestr Tai Teg mewn partneriaeth rhwng cymdeithasau tai’r rhanbarth, yr awdurdodau lleol, ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn symleiddio’r ffordd y mae pobl yn gwneud cais am gartref fforddiadwy.
Mae nifer o gynlluniau ar gael ar gyfer y rheini sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai opsiynau ar gyfer y rhai sy’n ennill hyd at £60,000.
Grŵp Cynefin sy’n arwain y prosiect. Yn ogystal â Grŵp Cynefin, mae partneriaid eraill gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a saith awdurdod lleol : Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Powys, Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir Ynys Môn.
Y cymdeithasau tai eraill sy’n ymwneud â’r prosiect yw Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Tai Pennaf, Tai Gogledd Cymru, Tai Wales & West, a Cartrefi Conwy.
Mae cartref fforddiadwy yn eiddo a ddarperir am bris llai na gwerth y farchnad, naill ai i’w rentu neu brynu. Nid yw Tai Teg yn darparu tai cymdeithasol, a chynghorir pobl i barhau i ddefnyddio cofrestr tai y cyngor perthnasol yn eu hardal.
Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Bydd Tai Teg yn symleiddio’r broses o gofrestru a sicrhau cartrefi fforddiadwy yng ngogledd Cymru a Phowys.
“Rwy'n annog unigolion sy’n ceisio dod o hyd i gartref fforddiadwy i’w rentu neu brynu i gofrestru. Hyd yn oed os ydych wedi cofrestru yn y gorffennol, mae’n rhaid i chi ail gofrestru ond bydd eich dyddiad cofrestru gwreiddiol yn aros yr un fath.
“Mae nifer o gynlluniau arloesol ar gael i helpu pobl i fynd ar yr ysgol i brynu cartref neu sicrhau cartref ar gyfer ei rentu. Gall pawb sydd â diddordeb ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y meini prawf a’r eiddo sydd ar gael ar wefan newydd Tai Teg.
“Hoffem hefyd siarad â datblygwyr ynghylch sut y gall tai fforddiadwy chwarae rhan bwysig iddynt hwy ar eu safleoedd unigol.”
Bydd y gofrestr yn cael ei defnyddio i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio ac i gefnogi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gynllunio ar gyfer datblygiadau tai yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb mewn cartref, ewch i’r wefan www.taiteg.org.uk.