Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020
Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau.
Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Golau Gaeaf
Summary (optional)
start content
Y stori hyd yn hyn
Yn 2019 cyrhaeddodd Golau Gaeaf strydoedd Llandudno gyda Phenodau 1 a 2 o’r chwedl epic hon.
- Pennod 1:
Gwelodd ‘Yr Helfa’ yr anhygoel Ychen Bannog, ychen Hugh Gadarn, a’r Llychlynwyr a orchfygodd y Gogarth ar un adeg, yn gorymdeithio drwy’r strydoedd wrth iddynt chwilio’n ddiddiwedd am Fôr-forwyn Conwy. Ymunodd Meistr y Cylch drygionus â nhw gyda'i osgordd Syrcas a'i Forwyr Tywyll. Byddai'r Fôr-forwyn yn gwneud gwobr wych ar gyfer ei gasgliad syrcas i ddenu torfeydd - ond ble mae hi?
- Pennod 2:
Parhaodd ‘Pwrs y Fôr-Forwyn’ y stori gyda thafluniad syfrdanol yng Ngerddi’r Gogledd Orllewin. Dangosodd hyn erledigaeth y fôr-forwyn dros y canrifoedd gan y Llychlynwyr, Hugh Gadarn a Meistr y Cylch, a sut iddi osgoi gael ei dal yn barhaus – gan rasio a brwydro trwy'r tonnau.
Tachwedd 2021
- Pennod 3:
“Y Ddalfa” perfformiad teithiol llai i gymunedau tref yng Nghonwy. Cyfle i wylio’r rhan nesaf o’r stori wrth iddi ddatod. Y sibrydion oedd bod y fôr-forwyn wedi cael ei dal o'r diwedd...
Llanrwst (bilingual):
Llanfairfechan (bilingual):
Yn yr adran hon
Drag side panels here (optional)
end content