Bydd yr orymdaith seremonïol hon yn digwydd ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 30 Mehefin 2018. Mae hwn yn ddiwrnod arbennig i lawer, a gofynnir i Gyn-filwyr o bob rhan o’r sir a’r Tri Gwasanaeth i ymgeisio i ymuno â’r orymdaith.
Os hoffech chi gymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Cofrestrwch eich diddordeb i gymryd rhan yn yr orymdaith drwy lenwi’r ffurflen ar-lein. Gallwch hefyd ei lawrlwytho isod a’i dychwelyd i digwyddiadau@conwy.gov.uk
neu ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i:
Diwrnod y Lluoedd Arfog 2018
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU.
Rydym yn hapus iawn gyda’r ymateb i gymryd rhan yn yr orymdaith ond mae yna lefydd yn parhau ar gael, anfonwch eich ffurflenni cofrestru erbyn 22/03/2018 fan bellaf.
Mae pawb sydd wedi cofrestru cyn 28/02/18 yn sicr o gael lle yn yr orymdaith.
Gweler hefyd: