Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Hamdden, Chwaraeon ac Iechyd Arfordir a chefn gwlad Fforwm Mynediad Lleol Dwyrain Conwy a Sir Ddinbych (CEDLAF)

Fforwm Mynediad Lleol Dwyrain Conwy a Sir Ddinbych (CEDLAF)


Summary (optional)
start content

Mae'r fforwm mynediad lleol yn cynnwys rhwng 12 ac 20 o aelodau o grwpiau buddiant, megis cerddwyr, beicwyr, marchogion, pobl anabl a thirfeddianwyr.

Mae’n cynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eraill parthed gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal at ddibenion hamdden yn yr awyr agored. Mae’n ystyried rheoli tir, a buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol ac addysgol.

Mae'r fforwm yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Nodau ac amcanion

  • Cefnogi a chynghori’r cynghorau, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ar dir mynediad agored yng Nghonwy a Sir Ddinbych ac ystyried ceisiadau ar gyfer cyfyngiadau neu gau mynediad ar gyfer rheolaeth neu gadwraeth tir.
  • Cynorthwyo gyda chyngor ar wella a datblygu’r rhwydweithiau hawliau tramwy sy’n bodoli ac adnabod unrhyw gysylltiadau coll.
  • Rhoi cyngor ar Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy’r siroedd a strategaethau hamdden a mynediad eraill.
  • Llywio a monitro gweithrediad Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy i sicrhau rhwydwaith integredig sy’n bodloni anghenion defnyddwyr heddiw ac yn y dyfodol.
  • Cydbwyso anghenion defnyddwyr mynediad gyda rheoli tir ac anghenion cadwraeth ardal.
  • Paratoi adroddiad blynyddol o’i weithgareddau.
  • Ymateb i ymgynghoriadau’r Llywodraeth ar reoli mynediad.
  • Cynrychioli’r Cynghorau mewn Fforymau Mynediad Lleol rhanbarthol.

Cyfarfodydd, cofnodion a rhaglenni

end content