Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Ymateb Cyflym i Amheuaeth o Hunanladdiad

Hysbysiad Preifatrwydd Ymateb Cyflym i Amheuaeth o Hunanladdiad


Summary (optional)
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Y rheswm (pwrpas) pam mae’n angenrheidiol prosesu eich data personol

Ymateb Cyflym i amheuaeth o hunanladdiad: sicrhau bod pobl a chymunedau a effeithiwyd yn cael cynnig cefnogaeth.

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu

Enwau, manylion cyswllt, eu perthynas neu eu cysylltiad â’r unigolyn sydd wedi marw.

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol

(e) Tasg gyhoeddus: mae angen y prosesu er mwyn i chi allu cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail gyfreithiol glir.

Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd

Manylion am ethnigrwydd, crefydd a data iechyd - bydd hyn ond yn cael ei brosesu os oes ganddo unrhyw berthnasedd o ran adnabod y rhai a effeithiwyd gan hunanladdiad a amheuir.

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data categori arbennig

(h) Iechyd neu ofal cymdeithasol (gyda sail yn y gyfraith)
(i) Iechyd y cyhoedd (gyda sail yn y gyfraith)

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014)
  • Adran 15 – gwasanaethau ataliol
  • Adran 17 - Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth
  • Adran 19 - Dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chefnogaeth
  • Adran 21 - Dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chefnogaeth
  • Adran 35 - Dyletswydd i fodloni anghenion gofal a chefnogaeth oedolyn

Bydd hyn yn berthnasol i gyrff cyhoeddus yn unig.

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • 5 Ffordd o Weithio: Hirdymor, Integreiddio, Cyfranogi, Cydweithio, Ataliol.
  • Dyletswydd Lles: rhaid i bob corff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf weithio i well lles cymdeithasol Cymru.

Nodau Lles

  • Iachach: Cymdeithas ble mae lles corfforol a meddyliol pobl wedi cynyddu a ble mae dewisiadau ac ymddygiad o fudd i iechyd y dyfodol yn cael eu deall.
  • Mwy Cyfartal: Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

Deddf Diogelu Data 2018

Prosesu ar gyfer Pwrpasau Gorfodi'r Gyfraith yn unol â atodlen 8 amodau ar gyfer prosesu sensitif o dan ran 3
(d)darparu gofal neu driniaeth iechyd,
(e)darparu gofal cymdeithasol.

Sut/ble caiff eich data ei storio

Cedwir yn fewnol, ar WCCIS.

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw

Mae amserlen cadw cofnodion Gofal Cymdeithasol Conwy yn nodi y byddai cyswllt unwaith yn unig yn cael ei gadw ar gofnod BB +2 flynedd. Gall hyn newid os yw Gofal Cymdeithasol eisoes yn ymwybodol o’r unigolyn.

Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu

Yn fewnol gydag unrhyw adran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi unigolion neu gymunedau a effeithir gan hunanladdiad (e.e. Gwasanaethau Addysg). Yn allanol gyda Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Sefydliad Jac Lewis.

Eich hawliau data

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod,
  • yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi,
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch,
  • yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach,
  • yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol,
  • yr hawl i unrhyw wybodaeth rydych wedi ei darparu i ni gael ei dychwelyd atoch mewn ffurf y gallwch ei rhoi i ddarparwr gwasanaeth arall os oes angen,
  • yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol,
  • yr hawl i beidio bod yn destun penderfyniad yn seiliedig ar brosesu awtomatig yn unig, gan gynnwys proffilio, sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol yn ymwneud â hi/ef neu sy’n effeithio’n sylweddol arni neu arno.

Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd.

Cyswllt Gwasanaeth

Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: dyletswydd@conwy.gov.uk 

Uned Llywodraethu Gwybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:  

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Blwch Post 1
Bae Colwyn
LL29 0GG
E-bost: uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk 
Rhif Ffôn: 01492 577215


Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, 2il Lawr
Tŷ Churchill 
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?