Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Cronfa'r Degwm: Hysbysiad Preifatrwydd

Cronfa'r Degwm: Hysbysiad Preifatrwydd


Summary (optional)
start content

Hysbysiad Preifatrwydd

Cyflwyniad

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:

Cyllid Corfforaethol

Y rheswm (pwrpas) pam mae’n angenrheidiol prosesu eich data personol yw:

Sefydlwyd Cronfa’r Degwm o elw ac asedau datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru. Dosbarthwyd yr asedau hyn yn gyfartal rhwng cyn Gynghorau Sir Cymru, ac yna eu rhannu rhwng Awdurdodau Unedol Cymru pan gawsant eu ffurfio ym 1996.

Rydym ni’n gweithredu fel gweinyddwyr y gronfa, a chaiff aelodau gweithgor y gronfa eu dewis o blith aelodau etholedig y Cyngor.

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw:

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw enwau, cyfeiriadau, cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn, gwybodaeth ariannol yn ymwneud â busnes neu unigolyn.

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol yw:

(gweler Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Beth yw’r sail gyfreithiol i’r prosesu?

Mae’r seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu data wedi eu nodi yn Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.

Tasg gyhoeddus: mae angen y prosesu er mwyn i chi allu cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail gyfreithiol glir.

Sut / ble caiff eich data ei storio:

Ei gadw’n fewnol.

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw:

Y flwyddyn ariannol bresennol a 7 mlynedd ar gyfer ceisiadau llwyddiannus a phan ddarperir taliad. Bydd ceisiadau aflwyddiannus yn cael eu cadw ar ein cofnodion am 12 mis ar ben y flwyddyn ariannol bresennol.

Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu:

Yn fewnol gyda gwasanaethau eraill pan fo angen.

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch
  • yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol
  • yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol
  • yr hawl i beidio bod yn destun penderfyniad yn seiliedig ar brosesu awtomatig yn unig, gan gynnwys proffilio, sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol yn ymwneud â hi/ef neu sy’n effeithio’n sylweddol arni neu arno.


Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd:

Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol)

Am ragor o wybodaeth am y cynllun, gweler y wefan isod:-

Cronfa'r Degewm - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyswllt gwasanaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch â’r manylion ar y ddolen i’r wefan:

Cronfa’r Degwm - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Uned Llywodraethu Gwybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Blwch Post 1
Bae Colwyn
Conwy
LL29 0GG

uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk

01492 577215

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, 2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content