Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth Achos Glyn


Summary (optional)
start content
Ymunodd Glyn â phrosiect Hyder yn dy Hun, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl cyfnod hir o ddiweithdra ac arwahanrwydd cymdeithasol.  Roedd yn dioddef yn aml o orbryder ac iselder a gyda dyslecsia difrifol, roedd yn wynebu heriau o ran cymhelliant a hyder, yn arbennig o ran gwneud cais am swyddi gan fod cael ei wrthod yn ei ddigalonni.

Gan gydnabod ei fod angen cymorth, cyfeiriodd Glyn ei hun at brosiect Hyder yn dy Hun Canolbwynt Cyflogaeth Conwy.  Mae’r fenter cyn-cyflogadwyedd, sy’n brosiect Sgiliau Allweddol Llywodraeth y DU a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, wedi’i ddylunio i gynorthwyo cyfranogwyr i oresgyn rhwystrau cymhleth ac amrywiol i gyflogaeth trwy gyfuniad o weithdai, mentora a gweithgareddau “dewr” er mwyn meithrin hyder, datblygu sgiliau a chynhwysiant cymdeithasol.

Er gwaethaf ei rwystredigaeth ar y dechrau, yn raddol fe ddaeth Glyn yn aelod actif gan gymryd rhan yn y dosbarthiadau Hyder a Lles bob wythnos; sesiynau gweithgaredd Dewr bob wythnos; gweithdai Paratoi CV a Chyfweliad; sesiynau cymorth mentora un i un a sesiynau Celf a Chreadigol.  Roedd y dosbarthiadau a gweithgareddau rheolaidd yn rhoi strwythur i Glyn adeiladu arferion newydd ac yn lleoliad diogel i dyfu a chysylltu gyda chyfoedion.

Cynhaliwyd nifer o sesiynau yn Llyfrgelloedd Conwy, a ddarparodd gerrig milltir sylweddol i Glyn wrth iddo ddysgu am y cymorth ac adnoddau gwerthfawr oedd ar gael i holl breswylwyr Conwy trwy ymuno â rhwydwaith y llyfrgell.  Cymerodd ran mewn gweithdy digidol a dysgodd am adnoddau Lles y llyfrgell, megis y Cynllun Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl, mynediad am ddim i’r Banc Data Cenedlaethol; y cyfleoedd cyfeillgarwch gan gynnwys clybiau, gweithgareddau a grwpiau darllen am ddim; WiFi am ddim, Cyfrifiaduron a mynediad sganio; e-lyfrau a llyfrau clywedol ar-lein yn ogystal â’r mynediad am ddim i Theory Test Pro, Learn My Way ac iDea i hyrwyddo datblygiad personol.

Gyda’r mynediad hwn, dechreuodd Glyn fynychu ei llyfrgell leol tu allan i Hyder yn dy Hun a rhoddodd dair awr bob dydd i gwrs theori dysgu gyrru ar-lein gan ddefnyddio Theory Test Pro, a oedd yn effeithiol iawn gan fod ei ddyslecsia wedi rhwystro ei gynnydd o ran dysgu gyrru yn flaenorol.  Roedd ei sgiliau gyrru a hyder hefyd wedi gwella o’i gyfranogiad mewn dau sesiwn cartio Ffit Conwy ym Mharc Glan y Gors, Cerrigydrudion.  Bellach mae Glyn wedi pasio ei brawf gyrru theori ac yn gweithio’n raddol tuag at ennill ei drwydded yrru lawn, cam a fydd yn gwella ei annibyniaeth ac ehangu ei gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Hefyd fe dderbyniodd Glyn gymorth CV yn ogystal â hyfforddiant ar geisiadau swyddi a thechnegau cyfweld gan Mel, ei Fentor Cyflogaeth Conwy, ac fe weithiodd hi a Glyn gyda’i gilydd i wneud cais am swydd gyda Phrosiect Cyflogaeth Gymunedol â Chymorth Crest a arweiniodd at Glyn yn derbyn rôl llawn amser â thâl.

Gan sôn am ei amser yn y prosiect Hyder yn dy Hun, meddai Glyn,

“Mae bod yn rhan o’r prosiect Hyder yn dy Hun wedi trawsnewid fy mywyd.  Bellach gallaf weld dyfodol lle rwy’n gyrru, gweithio ac yn cyfrannu’n ôl i fy nghymuned trwy gefnogi eraill.”
Mae Mel yn credu bod y bartneriaeth rhwng Hyder yn dy Hun, Llyfrgelloedd Conwy, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a’r Prosiect ACE wedi creu amgylchedd gofalgar i Glyn ffynnu;

“Mae siwrnai Glyn yn dangos pŵer trawsnewidiol o gymorth wedi’i deilwra, gweithgareddau strwythuredig a mentrau cydweithredol. Mae ei stori yn destament i’r ffordd y gall y dull cyfannol rymuso unigolion er mwyn goresgyn rhwystrau personol a phroffesiynol, meithrin twf, annibyniaeth a gwell dyfodol.”
end content