Cyfeirnod: CCBC - 049737
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Promenâd Llanfairfechan) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2025
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adrannau 1 a 2 a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, a’i effaith fydd cyflwyno cyfyngiadau ar y darnau o ffordd fel y nodir yn yr Atodlenni isod.
Bydd eithriadau’n cael eu darparu yn y Gorchymyn arfaethedig er mwyn caniatáu aros i bwrpas dod allan o gerbyd, mynd i mewn i gerbyd, llwytho, dadlwytho a gwaith cynnal a chadw, trwsio ac yn y blaen ac ar gyfer cerbydau sy'n arddangos bathodyn unigolyn anabl a disg parcio i bobl anabl.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â mapiau sy’n dangos y darn ffordd y mae'r Gorchymyn yn berthnasol iddynt, a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yn Swyddfeydd y Cyngor, Coed Pella, Bae Colwyn, Llyfrgell Llanfairfechan ac ar wefan y Cyngor.
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, ar bapur at yr Adran Draffig, yr Amgylchedd Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1 Bae Colwyn LL29 OGG neu at traffig@conwy.gov.uk erbyn 18 Ebrill 2025.
Atodlen 1: Dim aros ar unrhyw adeg
- Promenâd Llanfairfechan:
- Yr ochr ogleddol: o’i chyffordd â Shore Road am 5 metr i gyfeiriad y dwyrain
- Yr ochr ddeheuol:
- o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Shore Road am bellter o 5m i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Glan-y-Don a Ger-y-Môr am oddeutu 15 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 15 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 7 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Llais y Lli a The Windsor am oddeutu 12 metr i gyfeiriad y dwyrain
- Ffordd Fynedfa i’r Llwyfan Glanio:
- Yr ochr ddwyreiniol: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 5 metr i gyfeiriad y gogledd
- Shore Road:
- Yr ochr ddwyreiniol: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 8 metr i gyfeiriad y de
- Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd:
- Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de
- Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd
- Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de
- Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd:
- Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de
Atodlen 2: Cyfyngu amser aros i 45 munud, Dim Dychwelyd o fewn 60 munud (ac eithrio deiliaid trwydded ddilys)
- Promenâd Llanfairfechan:
- Yr ochr ogleddol: o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â’r Ffordd Fynediad i’r Llwyfan Glanio am bellter o 300 metr i gyfeiriad y dwyrain
- Yr ochr ddeheuol:
- o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Shore Road am oddeutu 43 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd am oddeutu 62 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd am oddeutu 59 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 66 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 17 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Llais y Lli a The Windsor am oddeutu 27 metr i gyfeiriad y dwyrain
Atodlen 3: Gwahardd cartrefi modur a charafanau o 11pm tan 8am
- Promenâd Llanfairfechan:
- Y ddwy ochr: ei hyd cyfan.
Atodlen 4: Man Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl
- Promenâd Llanfairfechan:
- Yr ochr ddeheuol: o bwynt 66 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 17 metr i gyfeiriad y dwyrain
Dyddiedig: 26 Mawrth 2025

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Tudalen nesaf: Gorchymyn