Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Promenâd, Llanfairfechan - Gwahardd a Chyfyngu ar Aros: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:-
  • i roi blaenoriaeth i breswylwyr dros deithwyr ac ymwelwyr i’r ardal
  • i cynnal llif traffig yn rhydd
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Promenâd Llanfairfechan) (Gwahardd  a Chyfyngu ar Aros) 2025


Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1 a 2, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori efo Prif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor") yn gwneud drwy hyn y Gorchymyn canlynol:-

  • 1. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y         dydd o                        Dwy fil a phump ar hugain a gellir cyfeirio ato fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Promenâd Llanfairfechan) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2025."
  • 2.
    • (1) Yn y Gorchymyn hwn:-
      • mae “Dystysgrif Hepgor neu Drwydded” yn golygu trwydded sydd wedi’i rhoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ganiatau i gerbydau sy’n arddangos trwydded o’r fath aros yn hirach na’r cyfyngiadau amser a nodwyd yn Erthygl 4
      • Mae “Cartref Modur” yn golygu cerbyd modur sydd wedi ei adeiladu neu ei addasu ar gyfer cario teithwyr a’u heiddo personol ac sy’n cynnwys, fel offer wedi’i osod yn barhaol, y cyfleusterau sydd yn rhesymol angenrheidiol er mwyn galluogi’r cerbyd i ddarparu llety preswyl symudol ar gyfer ei ddefnyddwyr;  
      • Mae “Carafán” yn golygu trelar sydd wedi ei adeiladu fel y gall pobl fyw ynddo, y gellir ei symud o un lle i’r llall (un ai drwy dynnu’r garafán, neu ei symud ar gerbyd modur neu drelar);
      • mae "safle tacsis awdurdodedig" yn golygu unrhyw ran o ffordd gerbydau sydd wedi ei chynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1028.2 yn Atodlen 6 Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Trafnidiaeth Ffyrdd 2016;
      • mae "lle parcio awdurdodedig" yn golygu unrhyw le parcio, ar ffordd, sydd wedi ei awdurdodi neu wedi ei ddynodi gan Orchymyn sydd wedi ei wneud dan Ddeddf 1984;
      • mae "safle bysiau" yn golygu unrhyw ddarn o ffordd gerbydau a ddynodir mewn unrhyw Erthygl neu Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel un sydd wedi ei fwriadu ar gyfer aros gan fysiau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1025.1, 1025.3 neu 1025.4 yn Atodlen 6 Rheoliadau Arwyddion Trafnidiaeth a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016;
      • mae gan "cerbyd hacni" yr un ystyr â’r hyn sydd yn Adran 38(1) Deddf Cerbydau (Tollau) 1971;
      • mae gan "bathodyn unigolyn gydag anabledd" yr un ystyr â’r hyn sydd yn Rheoliadau Pobl Gydag Anabledd (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;
      • mae gan "disg parcio" yr un ystyr â’r hyn sydd yn Rheoliad 8 Rheoliadau Gorchmynion Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol (Esgusodiadau ar gyfer Pobl Gydag Anabledd) (Cymru) 2000;
    • (2) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd yn y lle perthnasol:-
      • (a) pan nad yw'r bathodyn wedi peidio â bod mewn grym; a
      • (b)
        • (i) pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu
        • (ii) pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar flaen neu ar ochr agos y cerbyd (os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau), fel bod modd darllen blaen y bathodyn yn glir o'r tu allan i'r cerbyd.
    • (3) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol:-
      • (a) pan fo'r disg yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu
      • (b) pan fo'r disg yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y cerbyd, os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau.
    • (4) Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
  • 3. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 1 isod.
  • 4. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros am fwy na 45 munud heb ddychwelyd o fewn 60 munud ar y darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 2 isod ac eithrio deilwyr trwydded sydd â thrwydded dilys gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
  • 5. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw garafán neu garafán modur aros ar unrhyw adeg rhwng 11pm a 8am ar hyd y darn ffordd a nodir yn Atodlen 3
  • 6. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 7 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darn ffordd a nodir yn Atodlen 4 y Gorchymyn hwn, oni bai bod y cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd a thrwydded preswylydd.
  • 7.
    • (1) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3, 4 5 a 6 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau ffordd a gyfeirir atynt yn yr Erthyglau hynny, am gyhyd ag y bydd angen i ganiatáu:-
      • (a) Unigolyn i fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan ohono.
      • (b) Nwyddau i gael eu llwytho ar y cerbyd neu gael eu dadlwytho oddi arno.
      • (c) defnyddio’r cerbyd, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau canlynol, sef:-
        • (i) Gweithrediadau adeiladu, dymchwel neu ddiwydiannols.
        • (ii) Symud unrhyw rwystr ar draffig.
        • (iii) Cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn[au] ffordd dan sylw.
        • (iv) Gosod, codi, newid, neu atgyweirio, ar dir cyfagos i’r darn(au) ffordd dan sylw, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu unrhyw offer telegyfathrebu fel y mae'r rheiny'n cael eu diffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984.
      • (d) Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.
      • (e) Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000
      • (f) Galluogi'r cerbyd i aros gerbron neu yn agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos iddynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng.
      • (g) Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio i bwrpasau’r frigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans.
    • (2) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i gerbyd unigolyn gydag anabledd sy'n arddangos, yn y lle per-thnasol, fathodyn unigolyn gydag anabledd a disg parcio (lle mae'r gyrrwr, neu unig-olyn arall sydd â gofal am y cerbyd, wedi nodi'r amser y dechreuodd y cyfnod aros) aros ar y darn[au] ffordd a gyfeiriwyd atynt yn yr Erthyglau hynny am gyfnod o ddim mwy na 3 awr (ar yr amod bod cyfnod o ddim llai nag 1 awr wedi mynd heibio ers diwedd unrhyw gyfnod blaenorol o aros gan yr un cerbyd ar yr un diwrnod).
    • (3) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i gerbyd unigolyn gydag anabledd sy'n arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd yn y lle perthnasol aros am gyfnod diderfyn ar y darn[au] ffordd y mae'r Erthygl honno'n cyfeirio atynt.
  • 8.
    • (a) Gall rhywun sy’n byw ar y ffyrdd a’r strydoedd a nodir yn Atodlen 2 ac ar y cynllun sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn wneud cais am Dystysgrif Hepgor neu Drwydded (Cyfyngedig i 2 gerbyd i bob cartref ar gyfer cerbydau sydd wedi eu cofrestru yn y cyfeiriad) i fedru parcio’n hwy na’r cyfnod cyfyngedig sydd mewn grym.
    • (b) Gall rhywun sy’n byw ar y ffyrdd a’r strydoedd a nodir yn Atodlen 2 ac ar y cynllun sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn wneud cais am Dystysgrif Hepgor neu Drwydded (Cyfyngedig i 2 gerbyd i bob cartref ar gyfer cerbydau sydd wedi eu cofrestru yn y cyfeiriad) a dylid gwneud cais o’r fath ar ffurflen y mae’r Cyngor neu asiant awdurdodedig yn ei chyhoeddi a’i darparu a dylid cynnwys pa bynnag fanylion a gwybodaeth sy’n ofynnol eu darparu ar y ffurflen a bennir.
  • 9. Pan fo unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gwrthdaro ag amod sydd wedi ei gynnwys mewn Gorchymyn sydd wedi ei wneud, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi ei wneud, dan Ddeddf 1984, ac sydd mewn grym pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ac sy'n gosod cyfyngiad neu waharddiad ar gerbydau heblaw bysiau neu goetsys cyflym mewn arhosfan bysiau, neu'n esgusodi rhag cyfyngiad neu waharddiad o'r fath, darpariaeth y Gorchymyn hwnnw fydd drechaf.
  • 10.Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu gan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho,

 

Atodlen 1: Dim aros ar unrhyw adeg

  • Promenâd Llanfairfechan:
    • Yr ochr ogleddol: o’i chyffordd â Shore Road am 5 metr i gyfeiriad y dwyrain
    • Yr ochr ddeheuol:
      • o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Shore Road am bellter o 5m i gyfeiriad y dwyrain
      • o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Glan-y-Don a Ger-y-Môr am oddeutu 15 metr i gyfeiriad y dwyrain
      • o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 15 metr i gyfeiriad y dwyrain
      • o bwynt 7 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Llais y Lli a The Windsor am oddeutu 12 metr i gyfeiriad y dwyrain
  • Ffordd Fynedfa i’r Llwyfan Glanio:
    • Yr ochr ddwyreiniol: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 5 metr i gyfeiriad y gogledd
  • Shore Road:
    • Yr ochr ddwyreiniol: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 8 metr i gyfeiriad y de
  • Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd:
    • Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de
  • Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd
    • Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de
  • Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd:
    • Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de

Atodlen 2: Cyfyngu amser aros i 45 munud, Dim Dychwelyd o fewn 60 munud (ac eithrio deiliaid trwydded ddilys)

  • Promenâd Llanfairfechan:
    • Yr ochr ogleddol: o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â’r Ffordd Fynediad i’r Llwyfan Glanio am bellter o 300 metr i gyfeiriad y dwyrain
    • Yr ochr ddeheuol:
      • o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Shore Road am oddeutu 43 metr i gyfeiriad y dwyrain
      • o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd am oddeutu 62 metr i gyfeiriad y dwyrain
      • o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd am oddeutu 59 metr i gyfeiriad y dwyrain
      • o bwynt 66 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 17 metr i gyfeiriad y dwyrain
      • o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Llais y Lli a The Windsor am oddeutu 27 metr i gyfeiriad y dwyrain

Atodlen 3: Gwahardd cartrefi modur a charafanau o 11pm tan 8am

  • Promenâd Llanfairfechan:
    • Y ddwy ochr: ei hyd cyfan.

Atodlen 4: Man Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl

  • Promenâd Llanfairfechan:
    • Yr ochr ddeheuol: o bwynt 66 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 17 metr i gyfeiriad y dwyrain

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y        dydd o         Dwy fil a phump ar hugain

Tudalen nesaf:  Map

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content