Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Pared Llandudno - Atal A Chyfyngu Aros a Mannau Parcio Oddi Ar Y Stryd: Hysbysiad


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:
  • i reoli’r galw am barcio
start content

Cyfeirnod: CCBC - 049274

Gorchymyn (Cydgrynhoi) Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal A Chyfyngu Aros A Mannau Parcio Oddi Ar Y Stryd) 2006 Gorchymyn (Diwygiad Rhif 1) 2025 - Y Pared Llandudno


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud Gorchymyn dan Adrannau 1(1), 2(1) i (3) a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, i ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2006 i ymestyn y Parth Parcio wedi’i Reoli ar hyd y darnau hwnnw o ffyrdd fel y manylir isod.

Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â map sy’n dangos y darnau o ffordd y mae'r Gorchymyn yn berthnasol iddynt, a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yn Swyddfeydd y Cyngor, Coed Pella, Bae Colwyn, Llyfrgell Llandudno ac ar wefan y Cyngor.

Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, ar bapur at yr Adain Draffig, yr Amgylchedd Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1 Bae Colwyn LL30 OGG neu at traffig@conwy.gov.uk erbyn 18 Ebrill 2025.

Atodlen 1 Ffyrdd a Strydoedd

  • Ffyrdd a Strydoedd: Y Pared
    • Eithriadau: Yn caniatau parcio yn y Parth Parcio a Reolir
      • Nifer y trwyddedau a roddwyd: 1 i bob Rheolwr / Perchennog Gwesty ar y strydoedd a enwir sydd heb fynediad i lefydd Parcio preifat oddi ar y stryd
    • Eithriadau: Tocynnau i bobl yn aros yn y Gwestai
      • Nifer y trwyddedau a roddwyd: 4 i bob Gwesty (ddim i’w def-nyddio gan staff y Gwesty) ar y stryd a enwir

Atodlen 3 Strydoedd Llandudno sy’n Gymwys am Drwyddedau CPZ ac Aros yn Hirach

  • Colofn A: Y Pared (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar)

Atodlen 4 Parth Parcio wedi’i Reol

  • Hyd y ffordd: Y Pared, Llandudno; (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar pellter o oddeutu 600metr)
  • Safle y gall cer-byd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio (lle mae bae wedi marcio) neu fel gyfarwyddyd gan swyddog gorfodi sifil.
  • Math o Gerbyd:
    • Ceir a faniau ysgafn a charafannau mod-ur (fel y diffinnir yn Erthygl 2):
      • Oriau y codir tâl, dydd Llun i ddydd Sul (cyn-hwysol): 10am tan 4pm:
        • Graddfa'r Prisiau: o 1 Mai - 30 Medi:
          • Hyd at 4 awr £5.50
          • Mwy na 4 awr £7.50
          o 1 Hydref - 30 Ebrill:
          • Hyd at 2 awr £2.40
          • Hyd at 4 awr £3.80
          • Mwy na 4 awr £5.40
      • Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
    • Ceir a faniau ysgafn a(fel y diffinnir yn Erthygl 2):
      • Oriau y codir tâl, dydd Llun i ddydd Sul (cyn-hwysol): 4pm tan 10am:
        • Graddfa'r Prisiau:
          • Dim tâl
    • Carafannau modur(fel y diffinnir yn Erthygl 2):
      • Cyfnod aros hiraf: Ni Chaniateir 11pm i 8am

Atodlen 6 Taliadau ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas i Bobl Anabl

  • Hyd y ffordd: Y Pared Llandudno; (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar pellter o oddeutu 600metr)
  • Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio anabl
  • Math o Gerbyd: Deiliaid Batho-dynnau Unigolion Anabl yn unig
  • Oriau y codir tâl: Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol) 10 am tan 4 pm
  • Graddfa'r Prisiau: Dim tâl
  • Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyng-iad

 

Dyddiedig:  26 Mawrth 2025

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol


Tudalen nesaf: Gorchymyn

end content