Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Pared Llandudno - Atal A Chyfyngu Aros a Mannau Parcio Oddi Ar Y Stryd: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:
  • i reoli’r galw am barcio
start content

Gorchymyn (Cydgrynhoi) Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal A Chyfyngu Aros A Mannau Parcio Oddi Ar Y Stryd) 2006 Gorchymyn (Diwygiad Rhif 1) 2025 - Y Pared Llandudno

Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1(1), 2(1) i (3) a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori gyda Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor") yn gwneud drwy hyn y Gorchymyn a ganlyn:-

  • 1. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y dydd o dwy fil a phump ar hugain, a gellir cyfeirio ato fel "Gorchymyn (Cydgrynhoi) Bwrdeistref Sirol Conwy 2006 (Atal a Chyfyngu Aros a Mannau Parcio Oddi ar y Stryd) Gorchymyn (Diwygiad Rhif 1) 2025 – Y Pared Llandudno”.
  • 2. (1) Yn y Gorchymyn hwn:-
    • (a) Caiff Gorchymyn (Cydgrynhoi) Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal a Chyfyngu Aros a Mannau Parcio Oddi ar y Stryd) 2006 ei ddiwygio drwy hyn i’r graddau fod Atodlenni 1, 3, 4 a 6 yn cael eu diwygio i gynnwys y darnau hwnnw o Y Pared Llandudno fel y manylir yn yr Atodlenni isod.
      • Mae “Tystysgrif Esgusodi Masnachwyr” yn golygu tystysgrif a roddwyd ar ran y Cyngor i bwrpas Erthygl 25, sy’n caniatáu Cerbyd penodol i aros dan amgylchiadau penodol ar ddarn neu ddarnau o ffordd lle byddai'r cerbyd hwnnw wedi'i atal rhag aros fel arall
      • Mae “Carafán Fodur” yn golygu unrhyw garafán fodur, carafanet, cerbydau gwersylla neu unrhyw gerbyd a yrrir gan fodur sydd wedi cael ei wneud neu wedi ei drawsnewid i fod yn gerbyd campio neu i gysgu yn-ddo.
      • Mae “Ceir a Faniau Ysgafn” yn golygu Car Modur fel y’i diffiniwyd yn Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986; neu'r un ystyr â char modur yn Adran 185 Deddf Trafnidiaeth Ffordd 1988.
  • 3. Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu dan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho.

Y geiriau a’r ffigurau canlynol i’w hychwanegu at Atodlen 1

Ffyrdd a Strydoedd: Y Pared

  • Eithriadau: Yn caniatau parcio yn y Parth Parcio a Reolir
    • Nifer y trwyddedau a roddwyd: 1 i bob Rheolwr / Perchennog Gwesty ar y strydoedd a enwir sydd heb fynediad i lefydd Parcio preifat oddi ar y stryd
  • Eithriadau: Tocynnau i bobl yn aros yn y Gwestai
    • Nifer y trwyddedau a roddwyd: 4 i bob Gwesty (ddim i’w def-nyddio gan staff y Gwesty) ar y stryd a enwir

Y geiriau a’r ffigurau canlynol i’w hychwanegu at Atodlen 3

(Strydoedd Llandudno sy’n Gymwys am Drwyddedau CPZ ac Aros yn Hirach)

  • Colofn A: Y Pared (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar)

Y geiriau a’r ffigurau canlynol i’w hychwanegu at Atodlen 4

Parth Parcio wedi’I Reoli

  • Hyd y ffordd: Y Pared, Llandudno; (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar pellter o oddeutu 600metr)
  • Safle y gall cer-byd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio (lle mae bae wedi marcio) neu fel gyfarwyddyd gan swyddog gorfodi sifil.
  • Math o Gerbyd:
    • Ceir a faniau ysgafn a charafannau mod-ur (fel y diffinnir yn Erthygl 2):
      • Oriau y codir tâl, dydd Llun i ddydd Sul (cyn-hwysol): 10am tan 4pm:
        • Graddfa'r Prisiau: o 1 Mai - 30 Medi:
          • Hyd at 4 awr £5.50
          • Mwy na 4 awr £7.50
          o 1 Hydref - 30 Ebrill:
          • Hyd at 2 awr £2.40
          • Hyd at 4 awr £3.80
          • Mwy na 4 awr £5.40
      • Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
    • Ceir a faniau ysgafn a(fel y diffinnir yn Erthygl 2):
      • Oriau y codir tâl, dydd Llun i ddydd Sul (cyn-hwysol): 4pm tan 10am:
        • Graddfa'r Prisiau:
          • Dim tâl
    • Carafannau modur(fel y diffinnir yn Erthygl 2):
      • Cyfnod aros hiraf: Ni Chaniateir 11pm i 8am

Y geiriau a’r ffigurau canlynol i’w hychwanegu at Atodlen 6

Taliadau ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas i Bobl Anabl

  • Hyd y ffordd: Y Pared Llandudno; (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar pellter o oddeutu 600metr)
  • Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio anabl
  • Math o Gerbyd: Deiliaid Batho-dynnau Unigolion Anabl yn unig
  • Oriau y codir tâl: Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol) 10 am tan 4 pm
  • Graddfa'r Prisiau: Dim tâl
  • Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyng-iad

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y            dydd o           Ddwy fil a phump ar hugain

Tudalen nesaf: Map

end content