Dyddiadau
- 2025: 10 Ebrill, 12 Mehefin, 8 Gorffennaf, 20 Awst, 16 Medi, 16 Hydref, 18 Tachwedd, 10 Rhagfyr
- 2026: 14 Ionawr, 25 Chwefror, 12 Mawrth
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 4:30pm (cyrraedd am 9:15am ar gyfer te/coffi a chofrestru)
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Tîm Dysgu a Datblygu Gweithlu Conwy
- Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Gwaith Cymdeithasol Ysbytai a Phobl Hŷn, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth
- Grŵp targed: Unigolion sydd heb gael sesiwn Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan yn y 3 blynedd ddiwethaf
Nodau ac amcanion y cwrs
Byddwch eisoes wedi cwblhau dysgu Grŵp A.
Ar ddiwedd y gweithgaredd dysgu byddwch yn:
- gwybod am y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol, y codau ymddygiad a'r arferion proffesiynol sy’n adlewyrchu eich rôl o ran diogelu
- gallu disgrifio sut i weithio mewn modd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
- gwybod sut i fod yn chwilfrydig os dewch chi ar draws camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os byddwch chi’n ei amau, neu os bydd rhywun yn dweud wrthych eu bod yn cael eu cam-drin
- gallu egluro’r ffactorau, y sefyllfaoedd a'r gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
- gwybod sut, pryd ac i bwy y dylid adrodd am wahanol fathau o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod
I gael gwybodaeth bellach, neu os ydych chi wedi archebu lle ar y cwrs ond heb gael hysbysiad yn cadarnhau hynny, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â dod i unrhyw gwrs os nad ydych chi wedi cael hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan y gallai'r digwyddiad fod yn llawn.