Dyddiad
- 2025: 18th & 19th Mehefin
Manylion y cwrs
- Amser: 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru
9.30am - 16.30pm
- Lleoliad: Coed Pella
- Hyfforddwr: Paul Jones
- Gwasanaethau Targed: Busnes a Thrawsnewid, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth Gwasanaethau a Gomisiynir
- Grŵp Targed: Mae hwn wedi’i anelu at unigolion sydd wedi cwblhau Grŵp B Diogelu yn ystod y tair blynedd diwethaf
Nod y cwrs:
Darparu’r sgiliau, strategaethau a’r wybodaeth i asesu a gweithio mewn modd therapiwtig â dynion sy’n cam-drin yn ddomestig.
Canlyniadau Dysgu
- Sut i gwblhau asesiad manwl o gyflawnwyr cam-drin domestig.
- Gallu helpu dynion i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad cam-driniol a rheolaethol.
- Gallu gweithio gyda’r tad i gydnabod effaith a goblygiadau eu hymddygiad cam-driniol.
- Datblygu a magu hyder yn defnyddio sgiliau a strategaethau newydd i fyfyrio ar ddigwyddiadau ac annog newid.
- Mynd i’r afael â’n gorbryder ein hunain mewn perthynas â gweithio â chyflawnwyr a pha gamau i’w cymryd i gadw pawb yn ddiogel yn ystod yr ymyrraeth therapiwtig hon - Mam, Plant, Dad a’n hunain.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.