Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Parhad Busnes

Parhad Busnes


Summary (optional)
Mae Rheoli Parhad Busnes yn broses wedi'i chynllunio ymlaen llaw sy'n sicrhau y gall eich busnes barhau i weithredu mewn achos o argyfwng a’i fod wedi paratoi'n well i oroesi ac adfer o ddigwyddiadau annisgwyl ac aflonyddgar a allai effeithio ar eich gweithrediadau dyddiol.
start content

Mae Cynllunio Parhad Busnes yn cynnwys:

  • meddwl am a deall beth sydd angen i'ch busnes ei wneud fel mater o drefn er mwyn gweithredu'n effeithiol i gyflwyno ei gynnyrch neu wasanaeth i'r cwsmer
  • nodi beth yw’r bygythiadau neu risgiau allweddol sy’n wynebu eich cwmni, e.e. tân, llifogydd, peiriannau yn torri, colli TG neu ddata
  • rhoi trefniadau ar waith i leihau’r risgiau e.e. gosod synwyryddion tân, cynnal a chadw a phrofi offer trydanol yn rheolaidd, storio stoc ac offer oddi ar lefel y ddaear, gwneud copïau wrth gefn o ddata yn rheolaidd a chadw rhestr o fanylion cyswllt mewn argyfwng
  • paratoi cynlluniau adfer busnes sydd er enghraifft yn nodi dewis eiddo arall/dros dro posibl, cyflenwyr offer ac atgyweiriwyr, isgontractwyr posibl os yw’n berthnasol ac sy’n cynnwys cynllun cyfathrebu ar gyfer rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid  
  • profi a chynnal y trefniadau yn rheolaidd i sicrhau bod y manylion yn gyfoes

Gall yr anallu i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath gael effaith drychinebus ar unrhyw fusnes. Yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae 80% o fusnesau a effeithir gan ddigwyddiad difrifol naill ai byth yn ailagor neu'n rhoi'r gorau i fasnachu o fewn 18 mis; mae hyn yn tynnu sylw at yr angen ar gyfer Rheoli a Chynllunio Parhad Busnes.

Dilynwch y dolenni gwe isod i gael rhagor o wybodaeth

end content