Gellir caniatáu Rhyddhad Caledi dan Adran 49 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae rheolau caeth ynglŷn â chaniatáu'r rhyddhad hwn. Mae'n rhaid i'r Awdurdod ystyried nifer o ffeithiau wrth asesu pob achos.
Edrychwch ar y dudalen hon i weld rhai canllawiau y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu dilyn:
a) Nid oes raid cyfyngu'r prawf ar gyfer caledi i galedi ariannol yn unig. Dylid ystyried pob ffactor perthnasol sy'n effeithio ar allu'r busnes i gyflawni ei atebolrwydd i dalu trethi;
b) Mae'n rhaid hefyd ystyried budd trethdalwyr lleol yr ardal, er enghraifft, lle byddai rhagolygon cyflogaeth yn yr ardal yn gwaethygu petai cwmni'n methu, neu byddai'n arwain at lai o gyfleusterau mewn ardal, er enghraifft, unig siop y pentref yn gorfod cau; ac
c) a fyddai caniatáu rhyddhad caledi yn cael effaith andwyol ar fuddiannau ariannol trethdalwyr lleol.
Trethi Annomestig Cenedlaethol - Gymorth Caledi - Ffurflen Gais (Microsoft Word, 247KB)