Sut mae’r arolygiad yn gweithio?
Rydym yn cynnal arolygiad diogelwch bwyd sy'n cwmpasu agweddau hylendid bwyd a safonau bwyd, er mwyn:
- nodi ac atal risgiau i iechyd y cyhoedd,
- sicrhau nad yw bwyd yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n camarwain y defnyddiwr.
- ymchwilio toriadau posibl o reolau hylendid bwyd a deddfwriaeth safonau bwyd a chymryd camau yn ôl yr angen i gael busnesau i gydymffurfio â'r gyfraith,
- cynnig cyngor ar arferion da.
Mae gan Swyddogion Diogelwch Bwyd yr hawl i fynd i mewn ac arolygu safleoedd bwyd ar bob adeg resymol heb wneud apwyntiad, ac maent fel arfer yn dod heb rybudd ymlaen llaw.
Mae amlder ein hymweliadau yn amrywio rhwng bob 6 mis i bob 3 mlynedd, yn dibynnu ar y math o fusnes a’ch record diogelwch bwyd blaenorol.
Mae swyddogion yn cael eu hawdurdodi i arolygu’r adeiladau, arolygu bwyd, archwilio cofnodion (gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol), gallant atafaelu neu gadw bwyd, cymryd samplau a lluniau i'w defnyddio fel tystiolaeth.
Ar ôl yr Arolygiad
Unwaith y byddant wedi cwblhau eu harolygiad, bydd y swyddog arolygu’n trafod y canfyddiadau gyda'r person sy'n gyfrifol am yr adeilad. Byddant yn cynhyrchu adroddiad a'i anfon at weithredwr y busnes (fel arfer o fewn 14 diwrnod).
Bydd yr adroddiad yn amlinellu'r holl feysydd y mae'r busnes yn methu â chydymffurfio â nhw o ran deddfwriaeth diogelwch bwyd. Bydd hefyd yn amlinellu pa gamau y mae angen i weithredwr y busnes eu cymryd er mwyn cydymffurfio'n llawn â'r gyfraith.
Gyda’r adroddiad fydd sgôr hylendid bwyd y busnes (lle bo'n briodol).
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan na fydd arferion neu amodau'n foddhaol, byddwn yn ceisio gweithio gyda'r busnes i'w helpu i wella safonau a chydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd. Fodd bynnag, os nad yw amodau yn cael eu gwella, neu mae perygl i iechyd y cyhoedd, efallai y bydd angen i ni gyflwyno hysbysiad statudol i weithredwr y busnes. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad yn drosedd sydd, ar gollfarn, yn gallu arwain at ddirwy neu garchar.
Ailymweliadau
Os bydd arolygiad yn dangos bod angen ar y busnes i gyflawni gwaith i wella safonau, efallai y bydd angen un neu sawl ymweliad dilynol. Ni fydd eich sgôr hylendid bwyd yn newid ar ôl yr ymweliadau hyn oni bai eich bod wedi gwneud cais am ailsgoriad.