Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Iechyd yr Amgylchedd Diogelwch bwyd Rheoli Diogelwch Bwyd (HACCP)

Rheoli Diogelwch Bwyd (HACCP)


Summary (optional)
Canllawiau ar sut i gwblhau dadansoddiad peryglon ar gyfer eich busnes. 
start content

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae'n ofynnol i bob busnes bwyd yn ôl y gyfraith gael system rheoli diogelwch bwyd ar waith er mwyn nodi peryglon bwyd posibl. Rhaid i chi wedyn benderfynu pa rai o'r peryglon hyn sydd angen eu rheoli i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, rhoi rheolaeth effeithiol a gweithdrefnau monitro ar waith i atal y peryglon rhag achosi niwed i ddefnyddwyr a chadw cofnodion ysgrifenedig o'ch camau monitro. Cyfeirir at y system hon weithiau fel HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol).

Dylid adolygu eich system dadansoddi peryglon bob blwyddyn a phryd bynnag rydych yn gwneud unrhyw newidiadau i'ch busnes, er enghraifft i’ch bwydlen neu offer.

Cyngor ac arweiniad

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu ystod o becynnau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer sectorau gwahanol y diwydiant bwyd, i helpu gweithredwyr busnesau bwyd reoli eu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd.  

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell

Un o'r prif systemau a ddefnyddir yw pecyn o'r enw Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell, sy'n helpu busnesau bach gyda gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd. Mae nifer o becynnau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gael sydd wedi'u cynllunio i gwrdd ag anghenion penodol gwahanol fusnesau bwyd (manwerthu, arlwywyr, gofalwyr plant, gwahanol ddulliau coginio), y gall pob un ohonynt gael eu llwytho i lawr a'i hargraffu oddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Fel arall, gellir eu harchebu ar hyn o bryd yng Nghymru drwy ffonio cyhoeddiadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar 0845 606 0667.

MyHACCP

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd wedi cyflwyno’r offeryn MyHACCP newydd gyda’r bwriad o gefnogi busnesau gweithgynhyrchu bwyd bach i ddatblygu eu system rheoli diogelwch bwyd sy'n seiliedig ar HACCP. Mae'n eich tywys drwy broses gam-wrth-gam i adnabod peryglon diogelwch bwyd a rheolaethau ac yn rhoi allbwn PDF Adobe i'w lwytho i lawr o'ch astudiaeth HACCP a’ch rheolaethau sy'n seiliedig ar HACCP.

Fel rhan o'r arolygiadau arferol, bydd swyddogion diogelwch bwyd yn gwirio bod y busnes gyda system rheoli diogelwch bwyd briodol yn seiliedig ar HACCP. Gall hyn effeithio ar sgôr hylendid bwyd busnes.

Pecynnau diogelwch bwyd sector benodol

Pobwyr cartref

Busnesau Cebab

  • Nid yw’r Pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) yn cynnwys bwydydd na phrosesau penodol megis cebabau. Mae pecyn penodol diogelwch bwyd cebab wedi’i ddatblygu i gynnwys y gweithgaredd hwn. Os yw’r pecyn wedi’i gwblhau yn llawn, gall ffurfio rhan o'ch system rheoli diogelwch bwyd. Rhaid cwblhau hwn yn ogystal â’r pecyn SFBB.

Dolenni defnyddiol

Cysylltwch â’r Tîm Diogelwch Bwyd

E-bost: diogelwchbwyd-iechydadiogelwch@conwy.gov.uk

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?