Galwad i Weithredu (ymholiad / cwyn Gwelyau Haul)
Rheoliadau Deddf (Rheoleiddio) Gwelyau Haul 2010 (Cymru) 2011
Mae Deddf (Rheoleiddio) Gwelyau Haul 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sicrhau nad oes unrhyw berson o dan 18 oed:
- yn defnyddio gwely haul;
- yn cael y cynnig o ddefnyddio gwelyau haul, neu
- yn bresennol mewn parth dan gyfyngiad
Mae peidio â chydymffurfio â'r Ddeddf yn drosedd, ac efallai bydd cosb o hyd at £20,000.
Cafodd rheolaethau pellach eu cyflwyno gan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 a ddaeth i rym ar 31 Hydref 2011:
- gofyniad i oruchwylio defnydd gwelyau haul gyda phob busnes gwely haul
- gwahardd gwerthu neu logi gwelyau haul i rai dan 18 oed
- ymestyn gofynion y rheoliadau i fusnesau sy'n gweithredu o eiddo domestig
- fformat penodol a chynnwys y wybodaeth iechyd sy’n cael eu harddangos ac ar gael i oedolion a allai geisio defnyddio gwely haul
- gwahardd y ddarpariaeth neu arddangos unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag effeithiau iechyd defnyddio gwelyau haul, heblaw deunydd sy'n cynnwys yr wybodaeth am iechyd a ragnodir gan y rheoliadau, a
- gofyniad am ddarparu a gwisgo sbectolau amddiffynnol diogel a phriodol ar gyfer oedolion.
I roi gwybod am achosion o beidio â chydymffurfio â'r gyfraith, neu am gyngor ac arweiniad ar sut i gydymffurfio, llenwch ein ffurflen gyswllt ar-lein.
Rhagor o wybodaeth am welyau haul a'r ddeddfwriaeth: