Os ydych chi'n rheoli eiddo annomestig rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol am leoliad tŵr oeri neu gyddwysydd anweddu. Mae hyn yn caniatáu'r awdurdod a'r HSE i wybod lleoliad offer neu gyfarpar a ffynhonnell bosibl bacteria clefyd y lleng filwyr.
Ydw i angen y drwydded hon ac ydw i'n gymwys?
Os ydych chi'n gweithredu tŵr oeri neu gyddwysydd anweddu rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig ar ffurflen wedi'i chymeradwyo gan y Swyddog Iechyd a Diogelwch.
Beth sy'n rhaid i chi ei wneud:
Rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth hysbysu o fewn un mis i'r newid, yn ysgrifenedig.
Os yw'r ddyfais yn peidio bod yn ddyfais hysbysadwy rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig i'r awdurdod lleol cyn gynted a phosibl.
Beth sy'n rhaid i ni ei wneud:
Ar ôl cael y rhybudd wedi'i gwblhau bydd yr Awdurdod yn rhoi'r manylion ar y Gofrestr Statudol. Hefyd, bydd copi o'r cais yn cael ei roi i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ôl y gofyn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwch yn derbyn cadarnhad bod yr hysbysiad wedi'i dderbyn. Bydd copi o'r ffurflen hysbysu yn cael ei gosod ar y Gofrestr Statudol i gofnodi lleoliad y ddyfais hysbysadwy yn y Fwrdeistref Sirol.
Awdurdod: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Dyddiedig: 14/02/2023 | Dyddiad Cofrestru |
Tesco Stores Ltd |
6G Road, Cyffordd Llandudno, Gwynedd, LL31 9XY |
26/04/2006 |
Cygnet Plastics Ltd |
Swan Road, Parc Busnes Mochdre, Mochdre, LL28 5HB |
26/06/2008 |
Taliadau a Ffioedd:
Nid oes rhaid talu ffi am yr hysbysiad hwn.
Gwybodaeth Ddefnyddiol:
Mae rhagor o wybodaeth ar reoli bacteria clefyd y lleng filwyr mewn tyrau oeri ar gael o wefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
Cysylltwch â ni
Adain yr Amgylchedd/Llygredd
Gwasanaethau Rheoleiddio
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Ffôn: 01492 575279
Ffacs: 01492 575204