Mae disgwyl i’r cynllun trwyddedu triniaethau arbennig newydd ddod i rym erbyn diwedd 2024 (Hydref-Tachwedd). Bydd y gofynion cyfreithiol cyfredol a’r wybodaeth sydd wedi’i nodi ar y dudalen hon yn parhau mewn grym nes bydd y cynllun trwyddedu newydd yn dod i rym. Mae’n rhaid i gofrestriadau newydd dan y cynllun cofrestru cyfredol barhau i gael eu gwneud yn gyfreithlon cyn y daw’r cynllun newydd i rym.
Er mwyn cynnig y triniaethau canlynol yng Nghonwy, mae'n rhaid i'r person a’r adeiladau gael eu cofrestru gyda Thîm Diogelu'r Cyhoedd:
- aciwbigo
- tatŵio
- tyllu cosmetig gan gynnwys tyllu clustiau
- electrolysis
- lliwio croen lled barhaol
Mae cofrestru yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.
Sut i wneud cais
Ffioedd
- Y gost i gofrestru'r busnes ar gyfer gweithgareddau tyllu croen yn £120.
- Y gost ar gyfer pob person unigol yw £60.
- Mae trwyddedau, unwaith a gyhoeddwyd, yn cael eu hadnewyddu am ddim bob 2 flynedd, a thystysgrif newydd yn cael ei chyhoeddi.
Cymhwyster
- Nid oes unrhyw bwerau i wrthod cofrestriad, ond mae’r arfer yn cael ei reoli drwy gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, ac mewn rhai achosion, is-ddeddfau lleol. Bydd angen i chi hefyd roi manylion unrhyw euogfarnau blaenorol.
- Bydd angen i ymgeisydd ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd.
Dogfennau Ategol
Dylai'r dogfennau canlynol hefyd gael eu cyflwyno gyda'ch cais:
- Tystysgrifau hyfforddiant
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
- Ffurflen Ganiatâd
- Taflen Cyngor Ar ôl Gofal
Prosesu ac Amserlenni
- Bydd archwiliad yn cael ei wneud gan swyddog awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, llenwch ein ffurflen ymholiad ar-lein.
- Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.
Mae'n anghyfreithlon cynnal tyllu cosmetig, tatŵio, lliwio croen, aciwbigo neu electrolysis, oni bai bod y cofrestriad wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol.
Deddfwriaeth ac Amodau
Rhoi gwybod am broblem
Canllaw pellach: