Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tystysgrif Safle Cymeradwy (Safle)


Summary (optional)
Gwybodaeth am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig hanfodol newydd ar gyfer safleoedd, a ddaeth i rym ar 29 Tachwedd 2024.
start content

Mae'r cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd neu gerbydau lle bydd ymarferwyr trwyddedig yn ymgymryd ag unrhyw un neu rai o’r triniaethau arbennig a nodwyd (aciwbigo, tyllu rhannau o’r corff, electrolysis a/neu datŵio) gael eu cymeradwyo.  Bydd y dystysgrif gymeradwyaeth yn cael ei dyrannu i’r unigolyn sy’n gyfrifol am y busnes a'r safle (gallai hynny olygu’r perchennog, rheolwr neu ymarferydd - nid oes rhaid iddynt fod yn ymgymryd â’r triniaethau eu hunain ac mae’n bosibl na fyddant yn cyflogi ymarferwyr yn uniongyrchol).  Os bydd ymarferydd yn meddu ar drwydded triniaethau arbennig ond yn cael eu cyflogi gan rywun arall, neu’n rhentu cadair/ystafell ar safle busnes rhywun arall, nid oes rhaid iddynt gael tystysgrif gymeradwyaeth safle/cerbyd eu hunain, ond dylent sicrhau bod unrhyw safle neu gerbyd y maent yn eu defnyddio wedi cael ei gymeradwyo.

Mae’n drosedd i ymarferwr ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig heb drwydded neu ymgymryd ag unrhyw driniaeth o safle neu gerbyd nad yw wedi’i gymeradwyo, oni bai bod gennych drwydded/tystysgrif bontio. Mae hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â'r gofynion penodol a nodir yn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.

Sut i wneud cais

Sicrhewch eich bod wedi darllen y dudalen hon a thudalennau eraill yn yr adran hon yn llawn cyn i chi wneud cais.


** Dylech ond wneud cais uchod, os yw eich safle o fewn Sir Conwy.

Cais gan ymarferwr a gofrestrwyd yn flaenorol

Mae'n ofynnol i safleoedd a gofrestrwyd o dan ofynion blaenorol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ymgeisio am eu tystysgrif cymeradwyo safle/cerbyd eu hunain a, lle bo angen, trwydded triniaeth arbennig.

Bydd gan y rheiny sy’n gyfrifol am fusnes, y mae eu safle eisoes wedi’i gofrestru, 3 mis o 29 Tachwedd 2024 i gyflwyno cais am dystysgrif gymeradwyaeth a byddant yn elwa o drwydded bontio.  Bydd y gymeradwyaeth bontio hon yn caniatáu gweithredu busnes triniaethau arbennig ar safleoedd, yn unol â’u dogfen gofrestru flaenorol, nes bydd y cais am drwydded newydd wedi cael ei gyflwyno (mae’n rhaid i ymarferwyr hefyd feddu ar drwydded neu fod wedi’u cynnwys dan y trefniadau pontio hyn i ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig ar y safleoedd hyn).  

Mae trwyddedau/tystysgrifau cymeradwyo pontio wedi'u dyrannu’n awtomatig i bob safle ac ymarferwyr sydd eisoes wedi cofrestru. Os nad ydych wedi derbyn hwn erbyn hyn, ac roeddech wedi cofrestru gyda Chyngor Conwy yn flaenorol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar waelod y dudalen hon.

Rhaid i chi wneud cais am dystysgrif gymeradwyo o dan y cynllun newydd o fewn y cyfnod hwn o 3 mis (erbyn 28 Chwefror 2025).

Os ydych wedi cyflwyno’ch cais ac nad ydym wedi gwneud penderfyniad ar eich cais erbyn 28 Chwefror 2025, byddwch yn dal i allu parhau i ymarfer ar ôl y dyddiad hwn, hyd nes y byddwn ni (yr awdurdod lleol) yn rhoi penderfyniad i chi ar y cais.

Os na fyddwch yn cyflwyno’ch cais am dystysgrif gymeradwyo safle/cerbyd erbyn diwedd y cyfnod pontio 3 mis, bydd eich trwydded bontio yn dod i ben ar 1 Mawrth 2025. Ni fydd unrhyw eithriad i’r gofynion i gael tystysgrif gymeradwyaeth ac ni ellir ymestyn y cyfnod pontio hwn.

Cais gan ymarferwyr newydd (heb gofrestru o'r blaen)


Ni fydd safleoedd/cerbydau newydd nad oeddent wedi’u cofrestru’n flaenorol o dan Ddeddf 1982 cyn y dyddiad daw’r rheoliadau i rym (29 Tachwedd 2024), yn gymwys ar gyfer y trefniadau pontio.

Rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais ar gyfer y safle/cerbyd (a lle bo'n berthnasol, ffurflen gais ymarferwr). Unwaith y caiff ei chyflwyno, bydd yn cael ei hasesu a'i phrosesu gan yr Awdurdod Lleol. Ni ellir defnyddio’r safle hon ar gyfer unrhyw un o’r triniaethau arbennig penodedig hyd nes y byddwch wedi cael tystysgrif cymeradwyo triniaeth arbennig (a, lle bo’n berthnasol, bod yr ymarferwyr wedi’u trwyddedu). 

Ffioedd

Mae manylion y ffioedd ar gyfer pob tystysgrif gymeradwyaeth, tystysgrif gymeradwyaeth dros dro neu ar gyfer amrywiadau eraill wedi’u nodi isod. Ni ystyrir bod cais wedi cael ei gyflwyno nes bydd ffi’r cais wedi cael ei derbyn a’i chlirio. 

 Math o DrwyddedTrwydded NewyddAdnewyddu Trwydded
Tystysgrif Safle Cymeradwy (3 blynedd).  £385.00 £345.00 

 

 Ffioedd TrwyddedFfioedd
Safle/Cerbyd Cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (digwyddiad atodol).  £385.00
Safle/Cerbyd Cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (confensiwn/prif bwrpas).  £680.00
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (ychwanegu triniaeth).  £189.00
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (newid strwythurol).  £189.00
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (newid manylion).  £26.00

 

Cyfnod y drwydded 

Bydd y Dystysgrif Safle Cymeradwy’n para am 3 blynedd o ddyddiad cyflwyno’r drwydded.  Bydd y tystysgrifau dros dro’n ddilys am hyd at 7 diwrnod. 

Cymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

Dogfennau Ategol

Rhaid i geisiadau gynnwys y canlynol:

  • Cynllun o’r safle/cerbyd (gan gynnwys: mynedfeydd/allanfeydd y safle ac ystafelloedd, mesuriadau a siâp unrhyw ystafell o fewn y safle a lleoliad sinciau offer, biniau offer miniog, ystafelloedd staff, ardaloedd/cyfleusterau/ystafelloedd ar gyfer storio cynnyrch ac offer, toiledau, ardaloedd/ystafelloedd aros, sinciau golchi dwylo, biniau gwastraff, ffenestri a gorsafoedd gweithio).  
  • Tystiolaeth o yswiriant dilys yr ymgeisydd mewn perthynas â’r safle neu’r cerbyd.  
  • Tystiolaeth i ddangos bod yr ymgeisydd wedi cwblhau Gwobr Lefel 2 yn llwyddiannus (atal a rheoli haint).  

 

Prosesu ac Amserlenni

Caiff ceisiadau newydd eu prosesu o fewn yr amserlenni a nodwyd gan ganllawiau statudol/anstatudol Llywodraeth Cymru.  

Caiff safle sydd eisoes wedi cofrestru ac sydd wedi ymgeisio am Dystysgrif Safle Cymeradwy o fewn y cyfnod pontio o 3 mis, eu prosesu o fewn 6 mis o ddiwedd y cyfnod pontio, neu’n gynt (h.y. 9 mis o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym).

Gallai gymryd nifer o fisoedd i awdurdodau lleol asesu’r holl geisiadau wrth symud i’r cynllun trwyddedu newydd.  

Deddfwriaeth ac amodau

Mae Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 yn cynnwys gofynion ac amodau penodol ar gyfer safleoedd ac mae ar gael ar wefan ‘legislation.gov.uk’ yma: legislation.gov.uk/cy/wsi/2024/1244/contents/made/welsh

Y rheoliad trosfwaol sy’n amlinellu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Triniaethau Arbennig a gofynion cyfreithiol eraill yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Rhan 4).

Gellir gweld yr amodau cymeradwyo ar gyfer saleoedd/cerbydau yma: Amodau Trwyddedu Mandadol Ar Gyfer Trwyddedau Triniaethau Arbennig (Ymarferwyr) - (PDF).

Gellir gweld yr amodau cymeradwyo ar gyfer saleoedd/cerbydau DROS DRO yma: Amodau Cymeradwyo Mandadol Ar Gyfer Triniaethau Arbennig (Mangreoedd a Cherbydau Dros Dro) - (PDF).

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at diogelwchbwyd-iechydadiogelwch@conwy.gov.uk.

Canllawiau pellach

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau anstatudol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig, a fydd yn darparu gwybodaeth fanwl am ofynion y cynllun trwyddedu, sut i wneud cais am drwydded a thystysgrif gymeradwyaeth, sut i gydymffurfio â’r drwydded ac amodau cymeradwyo a’r pwerau gorfodi sydd ar gael i’r awdurdod lleol. Bydd y dolenni i’r dogfennau hyn yn ymddangos yma unwaith y byddant ar gael.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cyhoeddi’r Canllawiau Atal a Rheoli Heintiau (IPC) ar gyfer Triniaethau Arbennig yng Nghymru, sy’n rhoi gwybodaeth a chanllawiau manylach ar fesurau atal a rheoli heintiau, a sut y gellir eu cymhwyso yn y sector triniaethau arbennig. Mae hwn ar gael yma: Infection Prevention and Control (IPC) Guidance for Special Procedures in Wales

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?