Mae’r gofynion cofrestru blaenorol ar gyfer Triniaethau Arbennig yng Nghymru wedi’u disodli gan y cynllun trwyddedu gorfodol ar 29 Tachwedd 2024.
Mae’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy’n ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig (gweler isod) neu rywun arall yng Nghymru gael trwydded (cyfeirir at y drwydded hon fel ‘Trwydded Triniaethau Arbennig’) a bydd yn rhaid i’r safleoedd/cerbydau a ddefnyddir i ddarparu’r triniaethau fod wedi’u cymeradwyo (a elwir yn ‘dystysgrif Safle Cymeradwy’). Mae gan y cynllun hefyd ofynion/amodau gorfodol yn y Rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.
Triniaethau arbennig sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun trwyddedu newydd
Bydd y cynllun newydd ond yn berthnasol i driniaethau arbennig, a ddiffinnir yn Adran 57 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac sy’n cynnwys:
- Aciwbigo (yn cynnwys nodwyddo sych)
- Tyllu rhannau o’r corff (gan gynnwys y glust)
- Electrolysis
- Tatŵio (gan gynnwys colur rhannol barhaol / microlafnu)
Amserlenni
Daeth y Rheoliadau i rym ar 29 Tachwedd 2024.
Gwybodaeth arall
Mae gwybodaeth fanwl i ymarferwyr a safleoedd/cerbydau wedi’u cynnwys o dan ‘yn yr adran hon’ ar ochr dde uchaf y dudalen hon.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at diogelwchbwyd-iechydadiogelwch@conwy.gov.uk.