Argymhellir bod y sesiwn 3 awr hon yn cael ei chwblhau bob blwyddyn er mwyn i’r unigolion loywi eu sgiliau a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau a’r rheoliadau diweddaraf.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr sicrhau bod eu swyddogion cymorth cyntaf yn gymwys ac yn cynnal eu sgiliau drwy gydol y tair blynedd mae eu tystysgrifau yn ddilys.
Mae’r cwrs gloywi tair awr hwn yn rhoi cyfle i swyddogion cymorth cyntaf ymarfer a diweddaru eu sgiliau fel swyddogion cymorth cyntaf cymwys, ar unrhyw adeg tra mae eu tystysgrifau cymorth cyntaf yn ddilys.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn argymell eich bod yn mynychu sesiwn loywi unwaith y flwyddyn yn ystod y cyfnod tair blynedd hwn.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r cwrs hwn i bobl gyda thystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith neu Gymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith gyfredol.
Lleoliad y Cwrs: Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ
Hyd: 3 awr - 9:15am tan 12:15pm
Cost: £44
Cost o fis Ebrill: £46
Cynnwys y Cwrs
- Asesu arwyddion bywyd
- Sefydlogi unigolyn sy’n anymwybodol
- Trin cyflyrau sy’n peryglu bywyd
- Cynnal Bywyd Sylfaenol a’r defnydd o AED (diffibriliwr) a BVM (mwgwd bag falf)
- Adnabod a thrin gwaedu, llosgiadau a sioc
Asesiad a thystysgrif
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys tystysgrif ac yn ddilys am flwyddyn.
Sylwer nad yw hwn yn disodli’r cymwysterau Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith neu’r Cymorth Cyntaf yn y Gwaith. Asesiad parhaus gan hyfforddwr.
NODYN: Uchafswm o 12 fesul sesiwn
Dyddiadau'r cwrs: 2025
19 Mawrth
22 Ebrill
13 Mehefin
11 Gorffennaf
12 Awst
8 Medi
6 Hydref
27 Tachwedd
15 Rhagfyr
Dyddiadau'r cwrs: 2026
19 Ionawr
6 Chwefror
3 Mawrth