Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Cyrsiau Cymorth Cyntaf Gloywi Cymorth Cyntaf Blynyddol

Cwrs Gloywi Cymorth Cyntaf Blynyddol


Summary (optional)
Mae’r cwrs Gloywi Cymorth Cyntaf Blynyddol ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau un ai'r cwrs 3 diwrnod Cymorth Cyntaf yn y Gwaith neu’r cwrs 1 diwrnod Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith.
start content

Argymhellir bod y sesiwn 3 awr hon yn cael ei chwblhau bob blwyddyn er mwyn i’r unigolion loywi eu sgiliau a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau a’r rheoliadau diweddaraf.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr sicrhau bod eu swyddogion cymorth cyntaf yn gymwys ac yn cynnal eu sgiliau drwy gydol y tair blynedd mae eu tystysgrifau yn ddilys.

Mae’r cwrs gloywi tair awr hwn yn rhoi cyfle i swyddogion cymorth cyntaf ymarfer a diweddaru eu sgiliau fel swyddogion cymorth cyntaf cymwys, ar unrhyw adeg tra mae eu tystysgrifau cymorth cyntaf yn ddilys.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn argymell eich bod yn mynychu sesiwn loywi unwaith y flwyddyn yn ystod y cyfnod tair blynedd hwn.

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r cwrs hwn i bobl gyda thystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith neu Gymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith gyfredol. 

Lleoliad y Cwrs: Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ
Hyd: 3 awr - 9:15am tan 12:15pm
Cost: £44


Cynnwys y Cwrs

  • Asesu arwyddion bywyd
  • Sefydlogi unigolyn sy’n anymwybodol
  • Trin cyflyrau sy’n peryglu bywyd
  • Cynnal Bywyd Sylfaenol a’r defnydd o AED (diffibriliwr) a BVM (mwgwd bag falf)
  • Adnabod a thrin gwaedu, llosgiadau a sioc

Asesiad a thystysgrif

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys tystysgrif ac yn ddilys am flwyddyn.

Sylwer nad yw hwn yn disodli’r cymwysterau Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith neu’r Cymorth Cyntaf yn y Gwaith. Asesiad parhaus gan hyfforddwr.

NODYN: Uchafswm o 12 fesul sesiwn

Dyddiadau'r cwrs: 2024

22 Ionawr
29 Chwefror
1 Mawrth
26 Ebrill
17 Mai
14 Mehefin
18 Gorffennaf
15 Awst
4 Medi
10 Hydref
1 Tachwedd
13 Rhagfyr

Dyddiadau'r cwrs: 2025

8 Ionawr
7 Chwefror
19 Mawrth

 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?