Gall dilyn hyfforddiant cymorth cyntaf babanod helpu i ddatblygu eich hyder fel rhiant, nain a thaid, neu ofalwr, os yw eich plentyn o dan un oed.
Yn ystod y cwrs 2 awr byddwch yn dysgu sgiliau achub bywyd:
- Sut i ddelio gyda babi sydd ddim yn ymateb (yn anadlu neu ddim yn anadlu) gan gynnwys technegau adfywio, anadlu achub a chywasgiad brest
- Camau i’w cymryd pan fydd rhywun yn tagu gan ddefnyddio doliau arbenigol
- Gwaedu a rhoi rhwymyn
- Llosgiadau a thriniaeth
- Tymheredd uwch gan gynnwys y gwahaniaethu rhwng Sepsis a llid yr ymennyddi gynnwys ffitiau gwres a beth i’w wneud nesaf
- Prif arwyddion a symptomau anaf pen a thriniaeth
- Byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio doliau arbenigol sy’n rhoi adborth ar eich perfformiad.
Dysgu mewn awyrgylch hamddenol heb bwysau, rydym yn creu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Gallwch ddod â'ch babi gyda chi i'r cwrs (os yw'ch plentyn hyd at chwe mis oed). Mae pob safle yn hygyrch ar gyfer pramiau ac mae cyfleusterau bwydo a newid ar gael.
Bydd ein swyddogion cymorth cyntaf a hyfforddwyd yn helaeth yn cyflwyno sesiwn 2 awr i grwpiau bach o rieni newydd a darpar rieni, neiniau a theidiau neu ofalwyr.
Mae llyfryn pediatreg llawn wedi ei gynnwys yn y pris gyda’r holl wybodaeth y byddwch ei hangen.
Cost: £20 y pen
Dyddiadau:
- 18 Chwefror 2025, 9:15am tan 11:15am:
- Lleoliad: Canolfan Nofio Llandudno, Mostyn Broadway, Llandudno LL30 1YR
- 3 Mawrth 2025, 9:15am tan 11:15am:
- Lleoliad: Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn LL29 7AZ
Cofrestrwch eich diddordeb mewn cwrs Cymorth Cyntaf
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 456 95 25 neu anfonwch e-bost at hamdden.leisure@conwy.gov.uk.