Wrth i'r Cyngor adolygu ei asedau, efallai nad oes angen rhai ohonynt a gellir cael gwared arnynt trwy werthu rhydd-ddaliad (Ar Werth), neu eu rhoi ar brydles (Ar Osod).
Nid yw'r Awdurdod yn cadw rhestr bostio o ymgeiswyr sy'n chwilio am eiddo'r Cyngor sydd ar werth, ac mae'n argymell bod y rhai sy'n awyddus i gaffael tir ac adeiladau yn adolygu'r hyn sydd ar gael drwy wirio gwefan CBSC yn rheolaidd a thrwy fân hysbysebion y wasg leol. Gweler isod am fanylion unrhyw eiddo sydd ar werth ar hyn o bryd.