Bwriad y drwydded yw diogelu iechyd a lles yr anifail a sicrhau ei ddiogelwch a diogelwch pobl
eraill. Enghreifftiau o anifeiliaid gwyllt peryglus yw:
- Rhai mathau o fwncïod
- Nadroedd gwenwynig ac ymlusgiaid peryglus eraill
- Baedd gwyllt
- Estrys ac emiwod
Efallai y bydd angen i anifeiliaid hybrid neu wedi’u croesfridio gael trwydded, yn dibynnu ar ba mor bell yw'r anifail o'i hynafiad gwyllt. Gweler y rhestr lawn o anifeiliaid y mae arnoch angen trwydded ar eu cyfer.
Sut i wneud cais
I wneud cais am drwydded anifeiliaid gwyllt peryglus, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.
Ffioedd
Mae cais / adnewyddu trwydded anifail gwyllt yn costio £155 (gyda chostau adroddiad milfeddygol ychwanegol ar draul yr ymgeisydd). Unwaith y rhoddir trwydded, mae'n ddilys am 2 flynedd a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.
Cymhwyster
Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag:
- Cadw sefydliad bridio cŵn
- Cadw siop anifeiliaid anwes
- Cadw sefydliad anifeiliaid
- Cadw anifeiliaid
Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd. Gall yr awdurdod lleol wrthod neu ohirio penderfyniad am gais am drwydded nes y penderfynir ar y mater cynllunio.
Dogfennau Ategol
Amherthnasol
Prosesu ac Amserlenni
Bydd archwiliad yn cael ei wneud gan swyddog awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, cysylltwch â ni.
Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.
Ni all unrhyw un fod yn berchen ar anifail gwyllt peryglus heb gael trwydded yn gyntaf.
Deddfwriaeth ac Amodau
Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (legislation.gov.uk) ac amodau cysylltiedig.
Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu
Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.
Rhoi gwybod am broblem
Os oes gennych unrhyw gwynion neu ymholiadau ynghylch anifail gwyllt peryglus, anfonwch e-bost at licensing@conwy.gov.uk