Peiriannau gemau mewn safleoedd trwyddedig
Mae darpariaethau i ganiatáu nifer benodol o beiriannau Categori C a D mewn safleoedd trwyddedig. Mae’n rhaid i’r Drwydded Eiddo awdurdodi gwerthiant alcohol ar y safle.
Hawl awtomatig i beiriant/beiriannau gemau
Hawl awtomatig i safleoedd sy’n gwerthu alcohol ddarparu hyd at ddau beiriant Categori C a D. Er ei bod yn hawl awtomatig, dylid cyflwyno cais ynghyd â chynllun o leoliad y peiriannau yn ogystal â thalu ffi o £50.
Ffurflen gais ar gyfer 2 beiriant
Trwydded peiriant gemau
Mae trwydded peiriant gemau ar safleoedd trwyddedig yn caniatáu unrhyw nifer o beiriannau categori C neu D yn eu safle trwyddedig.
Sut i wneud cais?
Dim ond Deiliaid Trwyddedau Safle a gyflwynwyd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 all wneud cais am drwydded peiriant gemau. Mae’n rhaid i’r Drwydded Eiddo awdurdodi gwerthiant alcohol ar y safle.
Dylid cyflwyno’r canlynol ynghyd â’r cais: y ffi a’r dogfennau penodedig.
Ffurflen gais ar gyfer 2 beiriant
Ffioedd
Math o Drwydded | Trosi trwydded bresennol | Trwydded newydd | Clybiau newydd (trac cyflym) yn unig | Ffi flynyddol gyntaf | Ffi flynyddol | Ffi i amrywio trwydded | Ffi i adnewyddu | Ffi i drosglwyddo | Ffi i newid enw | Ffi am gopi o'r drwydded |
Trwydded Peiriannau Hapchwarae Safle Trwyddedig |
£100 |
£150 |
- |
£50 |
£50 |
£100 |
- |
£25 |
- |
£15 |
Trwydded Hapchwarae Clwb |
£100 |
£200 |
£100 |
£50 |
£50 |
£100 |
£200 |
- |
- |
£15 |
Trwydded Peiriant Clwb |
£100 |
£200 |
£100 |
£50 |
£50 |
£100 |
£200 |
- |
- |
£15 |
Trwydded Hapchwarae am wobrau |
£100 |
£300 |
- |
- |
- |
- |
£300 |
- |
£25 |
£15 |
Trwydded Canolfan Adloniant Teuluol Heb Drwydded |
£100 |
£300 |
- |
- |
- |
- |
£300 |
- |
£25 |
£15 |
Gall clybiau gyda thystysgrif eiddo clwb gael mynediad at wahanol fathau o beiriannau, am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r adran drwyddedu.
Cymhwysedd
Prosesu ac amserlenni
Mae’n bosibl y bydd yr awdurdod yn cyflwyno neu’n gwrthod cais. Wrth gyflwyno’r cais, mae’n bosibl y bydd yr awdurdod yn amrywio nifer a chategori’r peiriannau gemau a ganiateir dan y drwydded.
Dulliau apelio / unioni
Gall yr ymgeisydd apelio i lys yr ynadon yn erbyn penderfyniad awdurdod i beidio â chyflwyno trwydded. Gall y deiliad hefyd apelio’n erbyn penderfyniad i ganslo trwydded.
Manylion cyswllt:
Dolenni defnyddiol
Dolenni i wefennau Llywodraeth y DU - ar gael yn Saesneg yn unig: