Sut i wneud cais
Mae’n rhaid i ymgeisydd fod â thrwydded yrru llawn ers o leiaf 12 mis a rhaid bod ganddynt drwydded o’r fath pan fyddant yn cyflwyno eu cais. Yn ogystal, cyn y gall y Cyngor roi Trwydded, mae'n rhaid iddynt fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol.
Mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen gais ar-lein, y dogfennau digidol ategol a thalu’r ffi er mwyn i’r cais gael ei dderbyn. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fynychu sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y prawf gwybodaeth cyn i’r Drwydded gael ei chaniatáu.
Cyn gwneud cais, sicrhewch eich bod yn darllen yr wybodaeth isod a fydd yn cael ei hystyried gan yr Awdurdod Trwyddedu wrth benderfynu ar gais:
I gwblhau’r ffurflen gais ar-lein, bydd arnoch chi angen y dogfennau digidol canlynol:
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddiogelu a Phrawf Gwybodaeth ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni
I archebu lle i wneud y prawf a thalu’r ffi ofynnol, defnyddiwch y ddolen isod:
Dyddiadau 2024
Dyddiadau 2024
Dyddiadau | Amser |
6 Tachwedd |
11yb |
4 Rhagfyr |
11yb |
Dyddiadau 2025
Dyddiadau 2025
Dyddiadau | Amser |
8 Ionawr |
11yb |
4 Chwefror |
11yb |
4 Mawrth |
11yb |
2 Ebrill |
11yb |
7 Mai |
11yb |
4 Mehefin |
11yb |
8 Gorffennaf |
11yb |
6 Awst |
11yb |
9 Medi |
11yb |
8 Hydref |
11yb |
5 Tachwedd |
11yb |
3 Rhagfyr |
11yb |
Ffïoedd o 11 Medi 2024
Math | Cost |
Caniatáu (trwydded tair blynedd) + DVLA
Nid yw hyn yn cynnwys y ffi am y prawf gwybodaeth nac unrhyw ailbrofion sydd eu hangen.
|
£282.00
|
Adnewyddu (trwydded tair blynedd)
|
£226.00
|
Gwiriad y DVLA (bob 3 blynedd ar ôl ei ganiatáu)
|
£10.00
|
GDG, CRB yn flaenorol (bob 3 blynedd ar ôl ei ganiatáu)
|
£48.00
|
Ail-sefyll prawf Gyrrwr Hurio Preifat
|
£46.00
|
Tystysgrif Feddygol Dosbarth 2 (bob 5 mlynedd ar ôl caniatáu nes cyrraedd 65 oed ac yna bob blwyddyn wedi hynny.)
|
Cost wedi’i phenderfynu gan Ymarferydd Meddygol
|
Yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
Mae’n ddyletswydd ar yr Awdurdod Trwyddedu i sicrhau bod gennych chi hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae’n bosibl y bydd methu â darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani yn Atodiad A yn golygu y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Collfarnau Troseddol a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae’n rhaid bod gennych chi gymeriad da. I sefydlu hyn, bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad hanes troseddol ‘manwl’ gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gollfarnau troseddol (PDF)
Mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) wasanaeth tanysgrifio ar-lein sy’n caniatáu i ymgeiswyr ddiweddaru eu tystysgrifau GDG.
Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru naill ai pan fyddwch yn ymgeisio am eich gwiriad GDG neu drwy ddefnyddio eich rhif tystysgrif GDG wreiddiol pan gaiff ei chyflwyno (mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyflwyno eich tystysgrif GDG).
Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded.Efallai y bydd rhai ceisiadau yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Cyffredinol y Cyngor er mwyn gwneud penderfyniad.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.
Deddfwriaeth ac Amodau
Prosesu ac Amserlenni
Pan fydd yr holl waith papur wedi’i dderbyn gan yr ymgeisydd a’r asiantaethau allanol, a’r unigolyn wedi mynychu’r sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y Prawf Gwybodaeth Hurio Preifat, gall y drwydded gymryd hyd at 28 diwrnod i’w chynhyrchu.
Dulliau Apelio / Unioni:
Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy gyfrwng cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.
Cysylltu â ni