Mae ein proses ar-lein newydd yn gwneud ymgeisio ac adnewyddu’n gyflymach ac yn haws. Fel rhan o waith parhaus i foderneiddio ein gwasanaeth trwyddedu. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais am drwydded newydd neu adnewyddu trwydded bresennol.
Sut i wneud cais
Dim ond i gyfeiriad yn sir Conwy y gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddosbarthu trwydded gweithredwr hurio preifat, a hynny cyn belled a bo modd dangos caniatâd dilys gan yr adran gynllunio a pherchennog y tir. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd restru pob rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a gwefannau y maent yn bwriadu eu defnyddio i gymryd archebion o flaen llaw. Mae’n rhaid i’r gweithredwr fod yn addas a phriodol bob amser a datgan unrhyw gollfarnau troseddol. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd arwyddo datganiad i gydymffurfio â’r holl amodau trwyddedu gweithredwyr. Mae’r drwydded Gweithredwr yn ddilys am 5 mlynedd.
Mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen gais ar-lein, y dogfennau digidol ategol a thalu’r ffi er mwyn i’r cais gael ei dderbyn. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fynychu sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant cyn i’r Drwydded gael ei chaniatáu.
Darllenwch y wybodaeth ychwanegol ganlynol
I lenwi’r ffurflen gais ar-lein, bydd arnoch chi angen y dogfennau digidol canlynol.
Sef:
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddiogelu ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni
Ffoniwch 01492 576626 i archebu
- Mynychu’r Sesiwn Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant. (30 munud)
Dyddiadau cyrsiau i ddod:
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
I’w drefnu gyda’r ymgeisydd
|
|
Ar-lein
|
|
|
|
Ffioedd ar 11 Medi 2024
Math | Grant |
Caniatáu (trwydded 5 mlynedd)
|
£654.00
|
Caniatáu Adnewyddu (trwydded 5 mlynedd)
|
£524.00
|
DBS, CRB yn flaenorol
|
£48.00
|
Yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
Mae’n ddyletswydd ar yr Awdurdod Trwyddedu i sicrhau bod gennych chi hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae’n bosibl y bydd methu â darparu’r wybodaeth a ofynnir amdani yn Atodiad A yn golygu y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Collfarnau Troseddol a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae’n rhaid bod gennych chi gymeriad da. I ganfod hyn, bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad hanes troseddol ‘manwl’ gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gollfarnau troseddol (PDF)
Mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wasanaeth tanysgrifio ar-lein sy’n caniatáu i ymgeiswyr ddiweddaru eu tystysgrifau DBS.
Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru DBS
Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru naill ai pan fyddwch yn ymgeisio am eich gwiriad DBS neu drwy ddefnyddio eich rhif tystysgrif DBS gwreiddiol pan gaiff ei gyflwyno (mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyflwyno eich tystysgrif DBS).
Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded.Efallai y bydd rhai ceisiadau yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Cyffredinol y Cyngor er mwyn gwneud penderfyniad.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.
Deddfwriaeth ac Amodau
Prosesu ac Amserlenni
Pan fydd yr holl waith papur wedi’i dderbyn gan yr ymgeisydd a’r asiantaethau allanol, a’r unigolyn wedi mynychu’r sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y Prawf Gwybodaeth Hurio Preifat, gall y drwydded gymryd hyd at 28 diwrnod i’w chynhyrchu.
Dulliau Apelio / Unioni:
Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy gyfrwng cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.
Cysylltu â ni