Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cerbyd Hurio Preifat - Adnewyddu


Summary (optional)
Mae trwydded Hurio Preifat yn ddilys am gyfnod o 12 mis. Rhaid i’r Gyrrwr, y Gweithredwr a’r cerbyd gael eu drwyddedu gan yr un awdurdod.
start content

Mae ein proses ar-lein newydd yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i ymgeisio ac adnewyddu. Fel rhan o foderneiddio parhaus o’n gwasanaeth trwyddedu.

Sut i wneud cais

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau fod y cerbyd yn cydymffurfio ag Amodau Trwyddedu Hurio Preifat. Mae’n rhaid bod ganddynt y dogfennau yswiriant cywir, yn nodi’n glir fod y cerbyd wedi’i yswirio am hurio a thâl neu yrru tacsi, a rhaid i’r cerbyd fod wedi’i archwilio gan orsaf brofi wedi’i hawdurdodi gan CBSC a llwyddo yn y prawf a llenwi’r ffurflen gais briodol a thalu’r ffi.

Darllenwch y wybodaeth ychwanegol ganlynol

Amodau Trwyddedu Hurio Preifat (PDF)

I lenwi’r ffurflen gais ar-lein, bydd arnoch chi angen y dogfennau digidol canlynol.

Bydd arnoch angen: 

  • Dogfennau Yswiriant
  • Prawf Tystysgrif Cydymffurfiaeth
  • Tystysgrif Cerbyd(au) V5
  • Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y Gweithredwr Hurio Preifat
  • Ffi o £183

Cysylltwch â'r Swyddfa Drwyddedu os ydych yn ansicr a fyddai eich cerbyd yn cael ei drwyddedu.Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded.Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad ar eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod i’r penderfyniad gael ei wneud.

Ffioedd

Trwydded Cerbyd Hurio Preifat Ffi

Caniatâd

£224.00

Adnewyddu

£183.00

Newid Perchennog

£93.00

Trosglwyddo Cerbyd Hurio Preifat

£224.00

Disodli Plât x1

£32.00

Plât Tu Mewn

£20.00

Disodli Arwyddion Drws x1

£32.00

Disodli Arwyddion Drws x2

£51.00

 

Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded.

Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad ar eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ar gyfer cerbyd gyda manyleb uwch na’r model safonol, gellir ceisio eithriad. Byddai cerbyd hurio uwchraddol wedi ei eithrio rhag dangos arwyddion drws a byddai ganddo blatiau blaen a chefn llai amlwg. Gweler yr Amodau Hurio Uwchraddol.

Bydd y prawf Tystysgrif o Gydymffurfiaeth o safon MOT ynghyd â gwiriadau ychwanegol. Rhaid iddo gael ei wneud bob chwe mis, a gan fod y Cyngor wedi gwneud cais am eithriad gan y Weinyddiaeth Drafnidiaeth, nid oes angen i ddeiliad Trwydded Cerbyd Hacni a Thystysgrif o Gydymffurfiaeth gael y cerbyd wedi’i brofi ar wahân ar gyfer MOT.

Dylai adroddiad y prawf gael ei gwblhau a'i lofnodi gan yr arolygydd /peiriannydd. Dylai hwn wedyn gael ei ddychwelyd i'r Swyddfa Drwyddedu.

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

Prosesu ac Amserlenni

Ar ôl talu’r ffi a chyflwyno’r holl ddogfennau cysylltiedig, gall gymryd hyd at 28 diwrnod i gynhyrchu’r drwydded.

Dulliau Apelio / Unioni:

Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy wneud cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.

Gwybodaeth atodol

Rhestr o Orsafoedd Profi COC Cymeradwy (PDF)

Manylion Cyswllt:

Dros y ffôn: 01492 576626

Drwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content