Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Conwy – Cronfeydd Allweddol Cronfa Allweddol Cefnogi Busnes Lleol: Grant Eiddo Canol Tref

Cronfa Allweddol Cefnogi Busnes Lleol: Grant Eiddo Canol Tref


Summary (optional)
start content

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2025.  Mae’r Gronfa’n anelu at wella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a llefydd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Am ragor o wybodaeth, gweler y prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar wefan GOV.UK.

Byddai’r gronfa’n cefnogi ein busnesau lleol (masnachol a chymdeithasol) gan gynnig grantiau ar gyfer gwella golwg allanol eiddo masnachol, adfywio canol ein trefi a diwygio eu golwg yn gyffredinol.

Byddwn yn ystyried prosiectau yn ôl diffiniad Llywodraeth y DU o dan Ymyrraeth Busnes W16:

  • Buddsoddi mewn marchnadoedd agored a gwelliannau i isadeiledd y sector manwerthu a gwasanaeth yng nghanol y dref, gyda chymorth estynedig i fusnesau bychan

a chyflawni’r canlyniadau ac allbynnau canlynol:

  • Canlyniadau:
    • Cynyddu swm buddsoddiadau
  • Allbynnau:
    • Nifer yr adeiladau masnachol sydd wedi’u cwblhau neu’u gwella
    • Maint y gofod masnachol sydd wedi’i gwblhau neu’i wella

Dogfennau

Cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 6 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.

Mae'r cynllun yn cynnig cyllid o hyd at 80% ar wariant cyfalaf ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £15,000 yn cael eu cynnig. 

Gwaith cymwys

Prosiectau sy’n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Blaen siopau gan gynnwys gwelliannau strwythurol mân a chosmetig
  • Gwella ffenestri arddangos
  • Gwella arwyddion
  • Ffenestri a drysau ar gyfer prosiectau mawr
  • Goleuadau allanol
  • Landeri a phibellau dŵr
  • Rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig,  ail-bwyntio

Mae'r cynllun grant uwch hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail gyntaf i’r felin yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn yr amserlen fanwl.

Bydd yr holl gynigion o gyllid yn amodol ar gymeradwyaeth gan Banel Adolygu Grantiau o’r ceisiadau. Mae hwn yn grant dewisol lle bydd penderfyniad y Panel Adolygu'n un terfynol. Nid oes proses apelio.

Bydd dyddiad cau ceisiadau am grant ym mis Medi 2024 neu ar amser lle fydd y gronfa wedi’i ymrwymo’n gyfan gwbl, os yw’n gynt.

Wedi cadarnhau’r dyfarniad bydd yn rhaid i’r holl gynigion fod wedi’u derbyn a’r arian wedi’i hawlio erbyn 1 Tachwedd 2024 fan bellaf.

Ceisiadau

Bydd ceisiadau'n cael eu gwneud drwy’r ffurflen ar-lein. Ynghyd â’r ffurflen gais bydd angen nifer o ddogfennau ategol eraill.

Darllenwch y ddogfen ganllaw yn llawn i sicrhau bod yr holl wybodaeth ynghlwm cyn cyflwyno’r cais.

Gofynnir i chi siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth Busnes cyn cyflwyno unrhyw gais. I siarad ag aelod o’r tîm, anfonwch neges e-bost at busnes@conwy.gov.uk.

Byddwch yn ymwybodol fod y cronfeydd sydd ar gael nawr yn gyfyngedig iawn ac felly ni ellir sicrhau cyllid ar gyfer yr holl geisiadau a dderbynnir.

Gwneud cais

levelup-logos-e

end content