Mae cyllid o dan y ddau gynllun grant bellach wedi'i ymrwymo'n llawn – mae'r cynllun felly ar gau i unrhyw geisiadau pellach
Mae Cronfa Datblygu Busnesau Gwledig a Grant Datblygu Cymunedau Gwledig wedi cael eu dylunio gan Grŵp Gweithredu Lleol Conwy Cynhaliol sy’n gyfrifol am ddarparu rhaglen LEADER yng Nghonwy.
Mae rhaglen LEADER yn rhan o Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Dyma ddau grant dewisol i gefnogi datblygiad economaidd busnesau a chymunedau yng Nghonwy wledig.
Bydd ymgeiswyr yn gymwys i wneud cais drwy un o’r cynlluniau canlynol.
Grant 1 – Grant Datblygu Busnesau Gwledig
Cronfa i gefnogi busnesau meicro a bach gyda grantiau o hyd at £5000 (50% o arian cyfatebol).
Mae’n rhaid i brosiectau ddiwallu un neu ragor o’r amcanion isod:
- Adfer / datblygu ar ôl covid
- Canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a'r argyfwng hinsawdd
- Datblygu / adfer canol trefi/y stryd fawr ar ôl covid
Ardal Gymwys
Mae’n rhaid fod gan fusnesau gyfeiriad yn seiliedig o fewn ward etholiadol cymwys yng Nghonwy wledig.
Gweler y map isod a defnyddiwch ein gwiriwr cod post.
Darllenwch y ddogfen ganllawiau ar gyfer meini prawf llawn y grant hwn: Cronfa Datblygu Busnesau Gwledig Canllawiau (PDF, 856KB)
I gofrestru eich diddordeb yn y grant Datblygu Busnesau, anfonwch e-bost i business@conwy.gov.uk a bydd aelod o’r tîm yn trefnu galwad ffôn gyda chi
Grant 2 – Grant Datblygu Cymunedau Gwledig
Grant i gefnogi cymunedau lleol gyda gwerth o hyd at £8000 (20% o arian cyfatebol)
Mae’n rhaid i brosiectau ddiwallu un neu ragor o’r amcanion isod:
- Cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol yn y gymuned (nid yw digwyddiadau unwaith yn unig yn gymwys)
- Cynhwysiad Digidol
- Gwella amgylchedd naturiol ardal er budd y gymuned
- Gwella ansawdd amgylchedd adeiledig ardal
- Prosiectau arbed ynni/lleihau carbon mewn adeiladau cymunedol
Ardal Gymwys
Mae’n rhaid fod gan ymgeiswyr gyfeiriad yn seiliedig o fewn ward etholiadol cymwys yng Nghonwy wledig.
Gweler y map isod a defnyddiwch ein gwiriwr cod post.
Darllenwch y ddogfen ganllawiau ar gyfer meini prawf llawn y grant hwn: Grant Datblygu Cymunedau Gwledig Canllawiau (PDF, 442KB)
I gofrestru eich diddordeb yn y grant Datblygu Cymunedau, anfonwch e-bost i conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk a bydd aelod o’r tîm yn trefnu galwad ffôn gyda chi.