Mae'n amlinellu prif ddarganfyddiadau amcangyfrifon canol blwyddyn 2020 ar gyfer poblogaeth a mudo ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy, ac yn edrych ar amcanestyniadau poblogaeth 2018 a gafodd eu cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru.
Dyma'r bwletin diweddaraf mewn cyfres a fydd yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol gan yr Uned Ymchwil a Gwybodaeth Gorfforaethol. Mae atodiadau sy'n dangos poblogaeth fesul ward (rhanbarth etholiadol), cyngor cymuned, is-ardaloedd strategol, etholaethau a rhanbarthau/gwledydd ar gael ar ddiwedd y bwletin hwn.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r proffil poblogaeth (PDF)
Mae llawer o'r data yn y bwletin hwn am y cyfnod cyn dechrau pandemig Covid19 ac felly nid yw'n ystyried ei effaith. Ni fydd rhywfaint o ddata ar gyfer ail hanner 2020 ar gael tan ganol 2022 ar y cynharaf.
Penawdau
- Amcangyfrifir mai maint poblogaeth preswylwyr Bwrdeistref Sirol Conwy ar 30 Mehefin 2020 oedd 118,200 o bobl. Rhwng canol 2019 a chanol 2020 amcangyfrifir bod cyfanswm y bobl sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol wedi cynyddu tua 1,000 neu 0.8%.
- Ers 2010 mae poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynyddu 2,600, sy’n 3.1% – cyfartaledd o 0. 3% y flwyddyn, er nad yw cyfraddau newid wedi bod yn gyfartal dros y cyfnod. Yn yr un cyfnod tyfodd poblogaeth Cymru 3.9% a thyfodd poblogaeth y Deyrnas Unedig 6.9%.
- Rhwng canol 2019 a chanol 2020 roedd y newid mewn poblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy o ganlyniad i:
- newid naturiol negyddol o -600 o bobl (1,000 o enedigaethau a 1,600 o farwolaethau);
- cynnydd mudo net o 1,550 o bobl (daeth tua 5,050 o bobl i Fwrdeistref Sirol Conwy i fyw a gadawodd tua 3,500 o bobl).
- Mae cyfraddau ffrwythlondeb a chyfraddau marwolaeth yn syrthio, yn cyffredinol.
- Ond, heb fudo, byddai poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy yn lleihau oherwydd mae mwy o farwolaethau na genedigaethau yn yr ardal bob blwyddyn.
- Dros gyfnod o ddeng mlynedd, mae cyfartaledd mudo allanol net o tua -150 yn y grŵp oedran 15-29 oed bob blwyddyn.
- Mae cyfartaledd mudo mewnol net o tua +400 yn y grŵp oedran 50-64 bob blwyddyn.
- Oed canolrifol poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy yw 50.0 oed (Cymru = 42.4; y DU = 40.2). Mae’r oed canolrifol wedi cynyddu o 46.6 i 50.0 mlwydd oed yn y degawd diwethaf.
- Mae 27.9% Bwrdeistref Sirol Conwy o’r boblogaeth sy’n 65 oed a hŷn yn cymharu â 21.1% yng Nghymru gyfan a 18.6% ledled y DU.
- Erbyn 2040 rhagwelir
- os yw’r duedd yr amcanestyniad canolog yn parhau, y bydd gan Fwrdeistref Sirol Conwy boblogaeth o 123,000 – cynnydd o 4,800 (4.1%) o lefelau amcangyfrif canol blwyddyn 2020.
- os yw’r duedd amrywiolyn twf is yn parhau, y bydd gan Fwrdeistref Sirol Conwy boblogaeth o 117,750 – gostyngiad o -450 (-0.4%).
- os yw’r duedd amrywiolyn twf uwch yn parhau, y bydd gan Fwrdeistref Sirol Conwy boblogaeth o 126,350 – cynnydd o 9,150 (7.8%).
- daw cynnydd net yn y boblogaeth o fudo mewnol, oherwydd byddai newid naturiol yn unig (genedigaethau a marwolaethau) yn arwain at leihad yn y cyfanswm.
- bydd twf poblogaeth yn y grŵp oedran 65+ oed. Bydd nifer y bobl o oedran gwaith a’r boblogaeth dan 16 oed yn lleihau.
- Mae dwysedd poblogaeth yn isel, 1.0 unigolyn yr hectar ledled y Fwrdeistref Sirol, ond mae’n cynyddu i 30 unigolyn yr hectar mewn rhai ardaloedd trefol ar yr arfordir.
- Mae’r crynoadau mwyaf o bobl 65 oed a hŷn yn y setliadau arfordirol sef Abergele, Tywyn, Llanddulas, Llandrillo-yn-Rhos, Llandudno (wardiau Craig-y-Don, Gogarth a Phenrhyn) a Deganwy. Rhanbarth etholiadol Craig-y-Don sydd â’r gyfran uchaf o bobl 65 oed a hŷn yn ei phoblogaeth (39.2%).
- Mae’r proffil oedran ieuengaf o bell ffordd yn y Fwrdeistref Sirol yn rhanbarth etholiadol/ardal cyngor cymuned Llysfaen, gyda dim ond 14.5% o’r boblogaeth yn Mae llawer o'r data yn y bwletin hwn am y cyfnod cyn dechrau pandemig Covid19 ac felly nid yw'n ystyried ei effaith. Ni fydd rhywfaint o ddata ar gyfer ail hanner 2020 ar gael tan ganol 2022 ar y cynharaf.65+ oed, a 22.6% dan 16 oed.
Ebost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk
Diweddariad nesaf - Hydref 2022