Mae Ariannu Hyblyg yn ddull newydd o weithredu grantiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwahanol grantiau yn gweithio gyda’i gilydd, er mwyn darparu ymreolaeth well gan yr awdurdod lleol dros ddarpariaeth gwasanaeth, yn arbennig cynllunio a chomisiynu ar y cyd i gefnogi canlyniadau yn well. Mae’r rhyddid ychwanegol hwn yn caniatáu dull gweithredu strategol wrth ddarparu ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ffordd newydd o weithio wedi cael ei phrofi mewn saith awdurdod lleol ac ar lefel byrddau gwasanaeth cyhoeddus, ac mae Conwy yn un o’r awdurdodau braenaru.
Ym mis Hydref 2018, penderfynodd Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion y bydd dau grant integredig ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru o 1 Ebrill 2019 ymlaen, sef:
Grant Plentyn a Chymunedau
- Dechrau’n Deg
- Teuluoedd yn Gyntaf
- Cronfa Etifeddiaeth
- Cymunedau am Waith a Mwy
- Hyrwyddo Ymgysylltiad Cadarnhaol i Bobl Ifanc
- Gofal Plant a Chwarae
- Cronfa Dydd Gŵyl Dewi
a’r
Grant Cymorth Tai
- Cefnogi Pobl
- Atal Digartrefedd
- Rhentu Doeth Cymru (Gorfodi)
Bydd y trefniadau hyn yn parhau ar waith am weddill Tymor y Cynulliad.
Dull Gweithredu Conwy
Yng Nghonwy rydym wedi sefydlu pump ffrwd waith i symud y dull gweithredu hwn ymlaen i weithio’n hyblyg, sef:
Ffrwd Waith 1 – Ymchwilio ac Asesu’r Angen
Ffrwd Waith 2 – Gweithgareddau Rhaglenni a Phrosiectau
Ffrwd Waith 3 – Comisiynu a Phartneriaeth
Ffrwd Waith 4 – Monitro a Gweinyddu Rhaglenni
Ffrwd Waith 5 – Cydgynhyrchu
Rydym hefyd wedi nodi 6 thema:
- Rhianta
- Gofal plant a Chwarae
- Pobl Ifanc
- Atal Digartrefedd
- Cyflogadwyedd
- Iechyd a Lles
Mae ein trefniadau llywodraethu wedi cael eu hadolygu ac rydym wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen sy’n gyfrifol am arolygu’r rhaglen gyfan yn strategol, gyda chefnogaeth Grŵp Noddi, sy’n gyfrifol am y penderfyniad buddsoddi ac am diffinio’r cyfeiriad. Mae grŵp darparu a thimau prosiect eraill i gefnogi’r ffrydiau gwaith.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rheolwr y Rhaglen erica.wyn.roberts@conwy.gov.uk