- Mae'r Cyngor Llawn (pob un o'r 55 o gynghorwyr) yn sefydlu'r gyllideb a'r polisïau cyffredinol. Mae cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, ac yn trafod y gwahanol ddewisiadau ar gyfer materion pwysig sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol. Y Cyngor Llawn sy’n penodi Arweinydd y Cyngor; yna mae’r Arweinydd yn penodi aelodau eraill y Cabinet, ac yn clustnodi cyfrifoldebau (portffolios) i aelodau Cabinet.
- Mae'r Cabinet yn gwneud penderfyniadau allweddol, ond gall hefyd ddirprwyo penderfyniadau i Aelodau Cabinet unigol, i bwyllgorau, i swyddogion, trefniadau ar y cyd neu awdurdodau eraill. Mae 10 aelod yn y Cabinet, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor ac mae gan bob aelod faes cyfrifoldeb neu bortffolio gwahanol. Mae’r Cabinet yn cyfarfod yn rheolaidd, oddeutu unwaith neu ddwywaith y mis.
- Mae Pwyllgorau Craffu yn cynghori ar bolisïau ac yn dwyn y Cabinet i gyfrif ar faterion penodol. Gall Pwyllgorau Craffu hefyd adolygu gweithgareddau'r Cyngor neu faterion sydd o bryder lleol ehangach. Mae 4 pwyllgor craffu sy'n cael eu goruchwylio gan y Pwyllgor Craffu Cyllid ac Adnoddau.
- Mae'r Pwyllgorau Cynllunio, Archwilio a Llywodraethu a Thrwyddedu yn gwneud penderfyniadau rheoli'r Cyngor.
- Hefyd, mae Pwyllgor Safonau i hybu safonau uchel o ymddygiad ac i gefnogi Cynghorwyr er mwyn iddynt gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad.
- Gall swyddogion (aelodau o staff) hefyd wneud penderfyniadau dan bwerau wedi'u dirprwyo iddynt, mae'r rhain wedi'u hamlinellu yn y Cynllun Dirprwyo yn rhan 8 y cyfansoddiad.
Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn egluro'r swyddogaethau a'r perthnasoedd o fewn y Cyngor yn fwy manwl.
Mae Canllaw i’r Cyfansoddiad yn darparu trosolwg o Gyfansoddiad y Cyngor ac yn egluro prif adrannau’r Cyfansoddiad mewn iaith glir a syml.
Mae cyfarfodydd y Cyngor llawn a rhai cyfarfodydd eraill yn agored i'r cyhoedd.