Ni'n gofyn i bobl pa wasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw a’u cymunedau
Fel pob Cyngor arall yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o dan bwysau cyllidebol parhaus ac angen gwneud arbedion pellach i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025-2026. Y bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2025-2026, cyn rhoi unrhyw gyllid, yw £31 miliwn oherwydd costau cynyddol nwyddau a gwasanaethau.
Yn union fel pob Cyngor arall mae’n rhaid i Gonwy gipio pob cyfle i ddefnyddio ei arian yn fwy effeithiol, i leihau costau ac, yn anffodus, mae’n bosibl y bydd hyn yn arwain at leihau lefel y gwasanaethau a ddarperir ganddo.
Daw’s ymgynghoriad hwn i ben ar 17 Ionawr 2025.
Lleisiwch eich barn - llenwch ein harolwg yma