Fel pob Cyngor arall yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wynebu pwysau cyllidebol parhaus a bydd angen i ni wneud arbedion pellach i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025-2026.
Roedd y bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2025-2026, cyn i unrhyw gyllid gael ei roi, dros £31 miliwn, wrth i brisiau nwyddau a chostau darparu gwasanaethau barhau i godi.
Mae 70% o gyllid y Cyngor yn dod gan Lywodraeth Cymru. Yn dilyn cyhoeddiadau a wnaed gan y Canghellor yn Natganiad yr Hydref ym mis Hydref 2024, mae cyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu i ariannu Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws y DU, yn cynnwys yma yng Nghymru.
Ar 11 Rhagfyr 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd Conwy yn cael cynnydd o 3.7% mewn cronfeydd tuag at ein costau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Tra bod y cyllid hwn yn cael ei groesawu ac yn llawer mwy na’r cynnydd a gawsom yn 2024-2025, nid yw’n ddigon ar ei ben ei hun i bontio’r bwlch ariannol, ac mae angen i ni ddod o hyd i oddeutu £19 miliwn o hyd. Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd i gydbwyso’r gyllideb o hyd.
Rhesymau pam bod gan y Cyngor ddiffyg yn y gyllideb o £31 miliwn
Galw cynyddol am ein gwasanaethau
Mae’r argyfwng costau byw ac effeithiau hirdymor y pandemig yn golygu bod y galw am wasanaethau yn cynyddu.
Mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gefnogaeth. Mae’r galw am wasanaethau cymdeithasol a chefnogaeth i blant ac oedolion diamddiffyn wedi cynyddu’n sylweddol, yn ogystal â nifer yr unigolion a theuluoedd sy’n datgan eu bod yn ddigartref.
Nid yw ond yn deg bod y Cyngor yn cefnogi pobl ar eu hadegau anoddaf, ond mae’n golygu bod cost darparu’r gwasanaethau hyn yn cynyddu. Mae llawer o’n gwasanaethau yn ‘statudol’, sy’n golygu bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i’w darparu ac ni allwn droi pobl i ffwrdd am y rheswm nad oes gennym ddigon o gyllid yn weddill.
Rydym yn amcangyfrif mai £7 miliwn fydd cost y galw ychwanegol hwn am wasanaethau yn 2025-2026
Pwysau cyflogau, yn cynnwys y cynnydd yn Yswiriant Gwladol cyflogwyr
Mae dyfarniadau cyflog i Athrawon, gweithwyr y Cyngor a gweithwyr gofal, yn cynnwys y rhai a gyflogwyd gan ein darparwyr annibynnol, yn cael eu trafod a’u cytuno'n genedlaethol. Rydym yn falch o barhau i anrhydeddu ein hymrwymiad i dalu mwy na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i staff ar gyflogau is sydd, ynghyd â gweddill ein gweithlu, yn darparu gwasanaethau hanfodol ledled y sir a dylent gael cyflog teg.
Felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod digon o arian ar gael yn y gyllideb ar gyfer unrhyw godiadau cyflog sydd wedi’u cytuno arnynt ac amcangyfrif y dyfarniadau cyflog ar gyfer 2025-2026. Mae pwysau sy’n ymwneud â chyflogau yn cyfrif am dros £15 miliwn o’r diffyg yn y gyllideb o £31 miliwn. Bydd cynnydd yng nghyfradd Yswiriant Gwladol Cyflogwyr a gostyngiad yn y trothwy lle mae Yswiriant Gwladol yn dod yn daladwy yn dod i rym ym mis Ebrill 2025 a bydd yn ychwanegu amcangyfrif o £6.5 miliwn arall i’r bwlch yn y gyllideb.
Rydym yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r costau cyflog ychwanegol hyn ar gyfer staff Conwy yn cael eu had-dalu, ond bydd pwysau ariannol yn parhau i ddarparwyr gwasanaeth dan gontract.
Chwyddiant cyffredinol
Er bod chwyddiant wedi gostwng yn sylweddol o’i anterth o 11% y llynedd, mae’n dal yn uchel mewn rhai ardaloedd. Gyda chyfraddau llog yn aros yn uwch am yn hirach na’r hyn yr oedd sawl dadansoddwr wedi’i ragfynegi, mae chwyddiant yn parhau i godi costau’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Mae oddeutu £3 miliwn o’n pwysau ariannol yn deillio o chwyddiant prisiau cyffredinol.
Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
Mae Conwy, ynghyd â’r pum cyngor arall yng Ngogledd Cymru, yn darparu’r cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Tân, er ei fod yn sefydliad ar wahân. Mae’r Awdurdod Tân yn bwriadu cynyddu ei ardoll (sef ei fil i bob cyngor) gan fod eu costau hwythau wedi cynyddu hefyd.
Bydd y bil cynyddol hwn gan yr Awdurdod Tân yn ychwanegu mwy fyth at bwysau cyllidebol Conwy, gyda phob cynnydd o 1% yn costio oddeutu £80,000 yn ychwanegol.
Sut fydd y Cyngor yn mynd i’r afael â’r diffyg?
Nid yw’r dyraniad yr ydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i fodloni ein holl ofynion cyllidebol. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ni bontio’r bwlch yn y gyllideb yn lleol. Fodd bynnag, rydym yn deall y pwysau ariannol y mae pawb yn eu hwynebu.
Bydd y ffordd yr ydym yn bodloni’r bwlch yn y gyllideb yn dibynnu ar unrhyw gyllid pellach yr ydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi, faint o incwm ychwanegol y gallwn ni ei gynhyrchu, sut allwn ni leihau’r galw cynyddol am wasanaethau, beth allwn ni ei arbed drwy wneud toriadau pellach i’n gwariant a pha gynnydd canrannol y bydd cynghorwyr yn penderfynu ei godi drwy Dreth y Cyngor.
Mae tair prif ffordd y gallwn ni fynd i’r afael â’r diffyg.
Newidiadau gwasanaeth
Dros y deuddeg mlynedd diwethaf, mae Conwy wedi llwyddo i wneud arbedion gwerth £94 miliwn yn y gyllideb drwy newid gwasanaethau a moderneiddio’r ffordd yr ydym yn gweithio, i fod mor effeithlon â phosibl. Mae’n dod yn anoddach dod o hyd i gyfleoedd i wneud hyn, ond rydym wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau hanfodol sy’n amddiffyn ein trigolion mwyaf diamddiffyn.
Felly rydym yn gweithio’n galed i leihau costau ymhellach drwy ddefnyddio technoleg a thrwy barhau i leihau nifer yr adeiladau, yn ogystal â gwneud newidiadau pellach i’n gwasanaethau.
Treth y Cyngor
Am bob 1% o gynnydd yn Nhreth y Cyngor, rydym yn disgwyl derbyn £795,000 yn ychwanegol a chynyddu treth eiddo Band D o £17.33 y flwyddyn, neu 33c yr wythnos.
Felly nid yw’n bosibl cau’r bwlch yn y gyllideb drwy ddefnyddio Treth y Cyngor yn unig. Mae gan Gonwy hanes hir o gadw Treth y Cyngor yn isel, ond nid yw hyn yn bosibl mwyach.
Rydym ni’n sylweddoli bod trigolion Conwy wedi gweld cynnydd o 9.67% yn Nhreth y Cyngor y llynedd a bod yr Argyfwng Costau Byw yn parhau. Fodd bynnag, o ystyried y pwysau yr ydym yn eu hwynebu a’r diffyg mewn cyllid, mae’n anochel y bydd angen i ni gynyddu Treth y Cyngor yn 2025-2026.
Mae’n bwysig nodi, hyd yn oed gyda chynnydd yn Nhreth y Cyngor, bydd angen i ni wneud toriadau sylweddol i wasanaethau o hyd. Gan ddibynnu ar y codiad yn Nhreth y Cyngor, yn seiliedig ar annedd Band D, bydd pob 1% o gynnydd yn ychwanegu 33c yr wythnos i’r bil Treth y Cyngor. (Bydd unigolyn sy’n cael gostyngiad person sengl neu ostyngiad yn Nhreth y Cyngor yn talu llai bob wythnos).
Cronfeydd wrth gefn
Mae’n rhaid i’r Cyngor fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn (cynilion) gan nad yw Conwy yn meddu ar lefel uchel o gronfeydd wrth gefn, ac mae llawer ohonynt yn cael eu rhoi i un ochr am resymau penodol. Mae cronfeydd wrth gefn hefyd yn gronfeydd unwaith yn unig - unwaith byddant wedi’u defnyddio byddant wedi mynd, felly nid yw’r dull hwn yn mynd i’r afael â chostau rheolaidd o flwyddyn i flwyddyn.
Mae angen i’r Cyngor hefyd sicrhau bod ganddo gronfeydd wrth gefn digonol ar gyfer ymateb i argyfyngau, e.e. storm Darragh a gawsom yn ddiweddar.
Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor £4.288 miliwn yn ei gronfeydd wrth gefn cyffredinol, sef 1.5% yn unig o gyllideb y Cyngor. O ystyried sefyllfa ariannol y Cyngor, nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ddatrysiad ar gyfer cydbwyso cyllideb 2025-2026.
Gwybodaeth bellach
Os hoffech chi wybod sut ydym ni’n rheoli’r gyllideb mewn mwy o fanylder, darllenwch yr adroddiadau hyn: