Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad ar Lyfrgell Llandudno: cwestiynau cyffredin


Summary (optional)
start content

Cwestiynau ac actebion

O le fydd yr arian yn dod?

Yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024, cadarnhaodd Llywodraeth EF y byddai £100 miliwn o gyllid yn cael ei ddyfarnu ar gyfer prosiectau diwylliant, gan gydnabod y rôl bwysig sydd gan ddiwylliant a balchder mewn lle i’w chwarae mewn ffyniant bro.

Fe benderfynwyd y byddai’r cyllid yn cefnogi cyfuniad o fuddsoddiadau diwylliannol o bwys cenedlaethol o bob cwr o’r DU. Dyfarnwyd £10 miliwn i Venue Cymru. 

Faint fydd y prosiect yn ei gostio?

Cost gyffredinol y prosiect yw o leiaf £10 miliwn ac rydym yn chwilio am gyllid yn ogystal â buddsoddiad Llywodraeth y DU i gefnogi’r prosiect a byddwn yn cadarnhau cynlluniau yn ôl yr arian sydd ar gael.

Mae grant o £200,00 wedi’i gynnig gan Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at waith uwchraddio technegol. Dim ond cyllid grant mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn. 

A fyddai’r Gwasanaeth Llyfrgell a Gwasanaeth y Ganolfan

Byddent. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn berchen ar yr adeiladau ac ar hyn o bryd maent yn prydlesu gofod y Llyfrgell ac uned y Ganolfan Groeso ac felly byddai symud y cyfleusterau i Venue Cymru yn arbed arian. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar y buddion y gellid eu cyflawni trwy symud y gwasanaethau i adeilad sy’n fwy hygyrch i gwsmeriaid (lleoliad llawr gwaelod, mwy o fannau parcio hygyrch a chyfleusterau ychwanegol ar y safle).

A ellir gwario’r arian ar brosiectau eraill neu ar gostau staffio er enghraifft?

Na ellir. Mae’r arian wedi’i ddyfarnu ar gyfer y gwaith penodol hwn i greu canolbwynt diwylliant yn Venue Cymru sydd â’r nod o ddiogelu’r theatr ar gyfer y dyfodol a chreu lle diwylliannol ffyniannus sydd ar gael i ymarferwyr diwylliannol a’r cyhoedd ei ddefnyddio. Ni allem ddefnyddio’r arian ar gyfer unrhyw beth arall.

Beth yw prif elfennau’r prosiect?

Rydym yn cynnig mai elfennau allweddol o’r prosiect yw:

  • uwchraddio seddi’r awditoriwm, sydd dros 20 oed 
  • gwaith moderneiddio technegol yn y theatr gan gynnwys disodli offer sy’n 30 oed 
  • datblygu canolbwynt creadigol gan gynnwys mannau cymunedol 
  • cyd-leoli’r llyfrgell a gwasanaeth y Ganolfan Groeso

A fydd Conwy yn siŵr o gael yr arian?

Mae’r arian yn destun Achos Busnes a gaiff ei ystyried gan y Llywodraeth newydd yn San Steffan.

A fydd yn rhaid i gwsmeriaid dalu am barcio?

Mae mannau parcio i gwsmeriaid ar y safle yn Venue Cymru mewn maes parcio talu ac arddangos. Mae digonedd o fannau parcio am ddim ar y stryd dafliad carreg i ffwrdd hefyd.

Mae nifer o fannau parcio hygyrch ym maes parcio Venue Cymru, yn union y tu allan i’r drysau a fydd yn golygu bod mynediad gwell i bobl â Bathodynnau Glas. Mae mannau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio Venue Cymru. Bydd rhai mannau parcio am ddim am 20 munud wedi’u darparu.

Sut fyddai hyn yn well i bobl â phroblemau mynediad?

Byddai’r llyfrgell ar y llawr gwaelod, sy’n golygu na fyddai angen i ddefnyddwyr y llyfrgell ddefnyddio lifft na grisiau. Bydd mwy o fannau parcio hygyrch ar gael ger y fynedfa.

Mae nifer o doiledau hygyrch yn Venue Cymru ynghyd â lle pwrpasol i newid clytiau a chyfleuster Changing Places. Byddai caffi ar yr un safle â’r gwasanaethau hefyd, a mannau gweithio i’w defnyddio am ddim a chyfleusterau cymunedol. 

A fydd unrhyw fanteision eraill?

Bydd y prosiect yn helpu i ddiogelu ein gwasanaethau rhag anhawster economaidd parhaus. Bydd darparu offer hunanwasanaeth yn caniatáu i ddefnyddwyr y llyfrgell ddefnyddio’r cyfleuster pryd bynnag fydd yr adeilad ar agor, gan ymestyn amseroedd mynediad. 

Rydym yn gobeithio darparu llwyfan cymunedol bach yn y cyntedd a fydd ar gael am ddim, ac ystafell gymunedol a fydd ar gael am ffi llogi fechan.  Rydym hefyd yn gobeithio neilltuo ardal yn y cyntedd a fydd ar gael i grwpiau cymunedol redeg eu gweithdai a’u sesiynau grŵp eu hunain.

Bydd cyfuno ein gwasanaethau yn ein galluogi i ddarparu amrywiaeth gydlynol o weithgareddau i gymunedau, er enghraifft trwy gysylltu Amser Stori â’r Caffis Lego ac mae’n debygol o agor ffrydiau ariannu eraill sy’n gofyn am waith partneriaeth er mwyn bod yn gymwys. Byddai’r llyfrgell drws nesaf i’r ganolfan nofio, gan ddarparu mynediad rhwydd i deuluoedd sy’n defnyddio’r cyfleusterau. Byddai’r llyfrgell wedi’i leoli’n nes o lawer at ein hardaloedd preswyl.

Rydym yn bwriadu darparu ardaloedd gweithio mynediad agored yn ardaloedd y cyntedd. Bydd timau staff ar gael ar gyfer pob ardal arbenigol ond byddwn yn hyfforddi pob aelod o staff rheng flaen i gydweithio i gynyddu mynediad at gefnogaeth a gwybodaeth i bobl sy’n defnyddio’r adeilad. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo Menai i nodi buddion a chydweithio i gefnogi dysgwyr. 

A fydd y llyfrgell ar agor am lai o oriau?

Na, bydd oriau staff y llyfrgell yn trosglwyddo fel y maent. Bydd llawer mwy o gyfle i gasglu a dychwelyd eitemau’r llyfrgell gan ddefnyddio’r cyfleuster hunanwasanaeth, gan y bydd ar gael pryd bynnag y bydd yr adeilad ar agor.

A fydd modd defnyddio’r cyfrifiaduron o hyd (ac am ddim)?

Bydd.

Beth fydd yn digwydd i'r hen adeilad?

Rydym yn sylweddoli bod y llyfrgell mewn Adeilad Carnegie ar hyn o bryd a’i fod mewn lleoliad canolog ar y brif stryd fawr. Bydd y lle yn dychwelyd i berchnogion yr adeilad. Dim ond un llawr o’r adeilad mae’r llyfrgell yn ei ddefnyddio. Mae tenantiaid eraill yn defnyddio gweddill y lle yn yr adeilad. 

A allai hyn effeithio ar siopau’r stryd fawr?

Yn ein hymgynghoriad, rydym yn holi a fydd symud y llyfrgell yn effeithio ar faint o arian mae pobl yn ei wario yn y dref.  Bydd y llyfrgell yn dal i fod yn y dref a bydd wedi’i leoli rhwng prif fannau siopa Llandudno a’r cynnig sy’n cynyddu yng Nghraig y Don.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content