Mae elusen y Cyn-filwyr Dall yn ailsefydlu ac yn darparu hyfforddiant, cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol i gyn-filwyr sydd wedi colli eu golwg.
Mae’r Ganolfan Les yn Llandudno’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cyn-filwyr dall, drwy gynnig seibiant lles drwy gydol y flwyddyn, sy’n rhoi cyfle i gyn-filwyr gyfarfod cyn-filwyr eraill sydd wedi colli eu golwg, a dechrau ar eu taith at fod yn annibynnol ac oddi wrth deimlo ar wahân i gymdeithas.
Mae llawer o wahanol rolau yn y Ganolfan Les, o weithwyr cadw tŷ, staff gweini, staff y bar a diogelwch i staff cefnogi gofal iechyd, ac enwi llond llaw. Er bod y rolau hyn yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyn-filwyr Dall ac ar y wefan chwilio am swyddi Indeed, mae hi weithiau yn anodd recriwtio iddynt, felly mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi gallu helpu o dro i dro.
Dywedodd Stephanie Davies, Rheolwr Arlwyo y Cyn-filwyr Dall:
“Pan glywsom ni am Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy, roedden ni’n fwy na bodlon cynnig treial gwaith i unrhyw gyfranogwyr oedd eisiau ymgeisio am rôl. Roedd hi’n braf bod ganddynt berthynas wedi’i sefydlu gyda’r unigolyn roedden nhw’n eu cyflwyno.”
Dywedodd ei chydweithiwr, Amy Hughes:
“Rydyn ni’n rheoli’r adran arlwyo, ac mae recriwtio i’r mathau hyn o swyddi wedi bod yn anodd ers y pandemig. Mae gallu manteisio ar wasanaeth am ddim fel yr un mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n ei gynnig wedi bod yn ddefnyddiol iawn”
Wrth sôn am weithio gyda’r Cyn-filwyr Dall, dywedodd Clare Kingscott, Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr ar gyfer Canolbwynt Cyflogaeth Conwy:
“Rydyn ni wedi lleoli un neu ddau o bobl da iawn efo’r Cyn-filwyr Dall bellach, ac rydyn ni’n falch o sicrhau ein bod yn cyflwyno’r unigolyn cywir ar gyfer y swydd gywir, gan ystyried ethos y gweithle penodol hwnnw a gofalu bod yr ymgeisydd rydyn ni’n ei awgrymu am weddu’n dda i’r swydd. Rydw i bob amser yn annog gweithwyr i ystyried cynnig treial gwaith ynghyd â chyfweliad traddodiadol gan y cewch chi syniad llawer gwell a fydd yr unigolyn hwnnw’n gweddu i’r swydd wrth roi cyfle iddynt wneud y gwaith a theimlo’n rhan o’r tîm.”
Dywedodd Libby Duo, Rheolwr Strategol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy:
Mae’n wych clywed am waith caled y tîm i chwilio am gyfleoedd i’n cyfranogwyr ni sydd, er gwaethaf y rhwystrau o’u blaenau, yn benderfynol iawn o gael gwaith, ac mae’n rhoi boddhad mawr hefyd clywed sut rydyn ni’n parhau i gefnogi cyflogwyr ar draws y sir i lenwi swyddi gwag. Gobeithio y gallwn ddal ati i helpu elusen y Cyn-filwyr Dall i ddod o hyd i hyd yn oed mwy o bobl arbennig i gryfhau eu gweithlu.”