Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Richard


Summary (optional)
start content

Roedd Richard wedi bod yn ddi-waith ers dros bum mlynedd, ar ôl cael swyddi tymor byr yn flaenorol tra’r oedd yn canolbwyntio ar ei addysg.   Yn ystod y cyfnod hwn, bu i Richard hefyd wynebu heriau personol sylweddol yn cynnwys anaf aciwt i’r arennau a’r cyfrifoldeb o fagu ei blant ar ei ben ei hun.  Wrth i’w blant dyfu fyny a gadael cartref, dechreuodd Richard deimlo’n fwy a mwy unig, gan ddioddef o orbryder ac iselder, a theimlo’n ansicr am ei ddyfodol. 

Ar ôl mynd i’w Ganolfan Waith leol, cafodd Richard ei atgyfeirio at y Canolbwynt er mwyn cofrestru ar raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, lle clywodd am brosiect Hyder yn Dy Hun y Canolbwynt. 

Mae’r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn canolbwyntio ar leihau arwahanrwydd cymdeithasol, adeiladu gwydnwch a magu hyder wrth ddatblygu sgiliau ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd. 

Roedd Richard yn anfodlon ymuno â’r prosiect i ddechrau gan ei fod yn anhysbys ond roedd hefyd yn cael ei ddenu ato gan ei fod yn cydnabod ei fod angen cymorth i leihau ei arwahanrwydd cymdeithasol, felly trefnwyd iddo gyfarfod â Mel Davis, Rheolwr Prosiect Hyder yn Dy Hun.  Roedd Mel yn gallu siarad am y prosiect gyda Richard, gan sôn am y gweithgareddau sydd ynghlwm ac yn bwysicaf oll, sut fyddai hyn o fudd iddo, ac roedd ganddo gymaint o ddiddordeb ynddo nes iddo gofrestru ar unwaith gan wybod mai hwn oedd y cyfle perffaith i gael profiadau newydd, cyfarfod pobl newydd ac ail-adeiladu’r hyder sydd ei angen i’w helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn y pen draw. 

Roedd Hyder yn Dy Hun yn newid byd i Richard ac roedd y trawsnewidiad a brofodd yn enfawr.   Roedd y sesiynau grŵp, y rhyngweithio cymdeithasol a’r gweithgareddau heriol yn effeithiol iawn, gan gynnig amgylchedd cyfeillgar heb unrhyw bwysau.   Ac roedd y cyfle i gysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn hanfodol, ac yn helpu Richard i oresgyn ei deimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. 

Un o’r gwersi mwyaf gwerthfawr a ddysgodd oedd pwysigrwydd cymuned a chefnogaeth.  Roedd y prosiect yn darparu lle diogel i roi cynnig ar bethau newydd, magu sgiliau newydd, ac adeiladu rhwydwaith cymorth a oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r sesiynau.  Roedd cynnwys cefnogaeth ymarferol fel darparu cinio yn ystod y sesiynau, hefyd yn tynnu sylw at ddealltwriaeth y prosiect o anghenion y cyfranogwyr, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw parhaus. 

Nid yn unig wnaeth Richard fagu hyder a hunan-barch o’r newydd, ond bu i’r prosiect hefyd arwain at wneud ffrindiau newydd sydd wedi parhau y tu hwnt i’r gweithgareddau grŵp, ac roedd y gefnogaeth a dderbyniwyd gan Mel ac eraill yn amhrisiadwy, gan atgyfnerthu’r neges nad oedd Richard ar ei ben ei hun ar y daith hon. 

O ganlyniad i’r hyder a’r sgiliau newydd, mae Richard bellach yn mynd i gyflogaeth - canlyniad a oedd yn ymddangos yn amhosibl cyn y prosiect, wrth iddo ymuno â’r Rhaglen Cyflogaeth Gymunedol â Chymorth a gynhelir gan Crest mewn partneriaeth â’r Canolbwynt.   Mae’r rhaglen yn lleoliad 12 wythnos gyda thâl ar draws ystod o sectorau yn cynnwys manwerthu, gyrru ac ailwampio.   Yn ogystal â chael profiad gwaith amhrisiadwy, bydd Richard hefyd yn derbyn cefnogaeth â chyflogadwyedd a chwilio am swydd un i un ac mewn grŵp yn ogystal â hyfforddiant.   Yn ogystal â hyn, mae Richard wedi ymgymryd â rôl mentora cymheiriaid o fewn y prosiect Hyder yn Dy Hun, gan ddefnyddio ei daith i ysbrydoli eraill sydd mewn sefyllfa debyg. 

Yn gryno, mae Richard bellach yn hapusach, mwy hyderus ac yn fwy gobeithiol am y dyfodol, gydag ymdeimlad newydd o bwrpas a’r posibilrwydd o adeiladu ar ei brofiad yn Crest i sicrhau gyrfa llawn boddhad.

Os hoffech i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?