Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ein Proses Recriwtio


Summary (optional)
start content

Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned.  Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.  Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd.  Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.

Rydym yn ddeiliaid balch o Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn croesawu ceisiadau gan Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid a’u teuluoedd. 

Cysylltwch â'r Tîm ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

Ffurflenni Cais Ar-lein

Mae gofynion y swydd rydych chi’n gwneud cais amdani i’w gweld yn y manylion am yr unigolyn a’r swydd ddisgrifiad. Byddwn yn seilio ein penderfyniadau ar eich gallu chi i fodloni’r gofynion hyn.

Cyn i chi lenwi’r ffurflen gais, darllenwch y swydd ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn. Mae’r gofynion wedi’u rhannu’n ddau gategori:

  • Meini prawf hanfodol – mae’r rhain yn gwbl hanfodol i wneud y swydd.  Rhaid i chi ddangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn i gael eich ystyried am gyfweliad.  Os ydych yn ansicr a ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio (Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yn yr hysbyseb swydd).
  • Meini prawf dymunol - yn ychwanegol at y meini prawf hanfodol, mae’r meini prawf dymunol yn ein helpu i lunio rhestr fer o ymgeiswyr i gael cyfweliad. Bydd dangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf dymunol yn cryfhau eich cais. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth cyn gwneud cais am swydd, cysylltwch â’r rheolwr recriwtio. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld yn yr hysbyseb swydd.

Ar ôl cyflwyno eich cais, byddwch yn cael cydnabyddiaeth ein bod wedi derbyn eich cais. Fe allwch chi hyd yn oed gadw rhywfaint o fanylion eich cais rhag ofn y byddwch chi eisiau gwneud cais am swydd arall yn y dyfodol.

Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau technegol wrth lenwi eich ffurflen gais, ffoniwch 01492 576129 neu anfonwch e-bost at cefnogaethsystemad@conwy.gov.uk lle bydd aelod o’r tîm yn hapus i helpu.

Paratoi ar gyfer eich cyfweliad

Mae paratoi yn allweddol. Bydd gwneud yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r swydd ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn yn golygu y gallwch chi fynd i’r cyfweliad yn hyderus. Paratowch eich dogfennau.

Dyma rai awgrymiadau gennym ni:

  • Gwnewch rywfaint o ymchwil i’n sefydliad ni a’r swydd rydych chi wedi gwneud cais amdani.
  • Ceisiwch ddeall eich cryfderau a’ch gwendidau a sut maen nhw’n effeithio’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani.
  • Meddyliwch am eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol a’r hyn y mae hynny’n ei olygu i chi ac i ni.
  • Ystyriwch eich profiad gwaith ac enghreifftiau o sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol, a byddwch yn barod i siarad amdanyn nhw.
  • Mae paratoi yn allweddol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â'r swydd ddisgrifiad, manylion am yr unigolyn a bod eich dogfennau wedi'u paratoi.
  • Mae’n bwysig ein bod ni’n addas ar eich cyfer chi hefyd. Meddyliwch am unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn am y rôl neu sut brofiad yw gweithio i Gonwy.
  • Cynlluniwch yr hyn rydych chi am ei wisgo.
  • Cyrhaeddwch mewn da bryd.

 

Y Cyfweliad

Fel arfer, mae yna ddau neu dri pherson ar y panel cyfweld. Gall hyn deimlo braidd yn frawychus, ond mae'n caniatáu i ni gynnal llif y cyfweliad a gwneud nodyn o’r holl bethau diddorol y bydd gennych chi i’w dweud. Bydd aelodau’r panel yn dweud wrthych chi sut y bydd y cyfweliad yn gweithio, gan ofyn ychydig o gwestiynau bob un fel arfer

Os ydych chi'n ansicr ynghylch y cwestiwn, gofynnwch i'r cyfwelydd aralleirio neu ailadrodd. Cymerwch eich amser wrth ateb cwestiwn, byddwch yn benodol a rhowch enghreifftiau a phrofiadau blaenorol a pheidiwch â phoeni os na allwch ei ateb neu os ydych yn teimlo eich bod wedi ateb yn wael - ein gwaith ni yw cael y gorau ohonoch! Mae’n bwysicach adennill eich sylw a chanolbwyntio ar y cwestiwn nesaf.

Wrth ateb cwestiwn, byddwch yn benodol ac yn hyderus. Ar ôl i chi sôn am gryfder, dylech atgyfnerthu hyn gydag enghreifftiau a phrofiadau’r gorffennol.

Sesiynau galw heibio a digwyddiadau recriwtio

Rydym yn defnyddio sesiynau galw heibio a digwyddiadau recriwtio ar gyfer rhai swyddi. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i fod yn anffurfiol ac i roi cyfle i chi ddysgu am y swydd cyn penderfynu gwneud cais.

Byddwn yn hysbysebu’r digwyddiadau hyn ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diogelu

Rydym yn credu bod gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i gael eu diogelu rhag niwed. Mae Diogelu yn berthnasol i bawb yn y Cyngor.

Byddwn yn cynnal gwiriadau cyn cyflogi ar staff cymwys, gwirfoddolwyr ac eraill sy'n gwneud gwaith ar ran y Cyngor fel rhan o'r gweithdrefnau recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth am ein Polisi Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar gael yma.

Cwestiynau Cyffredin

 

content

content

content

content

content

content

 

end content