Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Performance

Perfformiad


Summary (optional)
start content

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad o Berfformiad

Fel rhan o'n gwelliant parhaus, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi adroddiad (Adroddiad Blynyddol) bob blwyddyn ariannol i esbonio beth wnaethpwyd i wneud gwelliannau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a lle rydym angen gwneud gwelliannau pellach. Mae hyn yn ofyniad dan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Gofyniad arall i ni o dan y Ddeddf hon, yw darparu hunan-asesiad o’n perfformiad. Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth a gesglir i ddangos ein perfformiad yn erbyn prosesau llywodraethu a rheoli perfformiad mewnol. Mae’r dystiolaeth sy’n cael ei chasglu a’i adolygu (gan gynnwys y categorïau a ddefnyddir i werthuso ein perfformiad) ar gael ar gais.


Mae modd cael copïau o'r adroddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg, mewn Braille, print bras, CD ac mewn ieithoedd eraill. Ffoniwch 01492 576508 i drefnu. 

Mae fersiynau hŷn o'r adroddiadau i'w cael ar gais. 

Datganiad llywodraethu blynyddol

Beth yw Llywodraethu?

Llywodraethu Corfforaethol yw'r system a ddefnyddir i gyfarwyddo a rheoli sefydliad.

Bydd strwythur llywodraethu da yn cynnwys, fel isafswm:

  • Safonau llywodraethu clir a fydd yn llywodraethu sefydliad
  • Rolau a chyfrifoldebau llywodraethu
  • Mecanwaith ar gyfer mesur perfformiad sefydliad yn erbyn ei safonau llywodraethu.

Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i sefydliad feddu ar sail gadarn o lywodraethu da a rheolaeth ariannol gadarn.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i sicrhau bod egwyddorion llywodraethu ac arferion rheoli da yn cael eu mabwysiadu ym mhob gweithgaredd busnes i sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd.

1)      Y Cod Llywodraethu Lleol

Mae’r Cod Llywodraethu Lleol yn darparu datganiad cyhoeddus sy’n nodi’r ffordd y mae’r Cyngor yn cydymffurfio ag egwyddorion Llywodraethu CIPFA.

2)      Y Fframwaith Llywodraethu

Mae’r Cod Lleol wedi’i danategu gan Fframwaith Llywodraethu sy’n cynnwys y polisïau, gweithdrefnau, ymddygiadau a’r gwerthoedd sy’n rheoli ac yn llywodraethu’r Cyngor.

3)      Y Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn darparu sicrwydd o ran trefniadau Llywodraethu’r Cyngor, ynghyd â nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt a’u gwella yn y dyfodol. Pwrpas y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw i adrodd yn gyhoeddus ar y graddau y mae’r Cyngor yn cydymffurfio â’i god llywodraethu lleol. Mae’n nodi’r meysydd hynny sydd angen eu gwella yn ôl yr hunanasesiad.

Dylid darllen y datganiad hwn ynghyd â'r trefniadau atebolrwydd rheoli perfformiad, fel y'u nodir yn yr Adroddiad Blynyddol.

Mae fersiynau hŷn o'r adroddiadau a geir ar y dudalen hon i'w cael ar gais o tgdc@conwy.gov.uk.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content