Cynllun y Cyngor 2022 - 2027
Mae gennym ni gynllun newydd i’r Cyngor cyfan sy’n nodi ein huchelgeisiau i wneud gwahaniaeth i Bobl Conwy dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn bodloni ein canlyniadau hirdymor ar gyfer ein dinasyddion.
Wrth i Sgwrs y Sir barhau, rydych chi wedi dweud wrthym beth rydych chi’n ei feddwl sydd wedi newid dros y pum mlynedd ddiwethaf, beth sy’n bwysig i chi a beth allem ni ei wneud yn well. Rydym hefyd wedi dadansoddi ymchwil a thueddiadau data am y Sir ac wedi defnyddio hyn oll i ddatblygu ein Cynllun.
Mae ein cynllun hefyd yn adlewyrchu newidiadau rydym ni i gyd wedi gorfod eu gwneud o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 byd-eang ac mae’n trafod sut y gallwn helpu pobl, busnesau a chymunedau drwy gyfnod ansicr a chostau byw cynyddol.
Mae heriau o’n blaenau ond byddwn yn parhau i roi ein cymunedau wrth galon popeth rydym yn ei wneud. Fe fyddwn felly’n adolygu’r cynllun bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn adlewyrchu beth rydych wedi’i ddweud wrthym ni.
Byddwn yn gofyn i gymunedau bob blwyddyn a yw’r blaenoriaethau’n parhau i fod yn gywir a’u hadolygu os oes angen. Yn yr un modd, rydym eisiau dweud wrth gymunedau beth sydd wedi’i gyflawni, a phob mis Hydref, byddwn yn rhoi diweddariadau drwy adroddiad blynyddol. Fodd bynnag, nid ydym ni eisiau aros tan ddigwyddiad blynyddol i glywed eich barn chi – os oes gennych syniadau neu os hoffech gymryd rhan i wneud newid cadarnhaol yn eich cymuned, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad isod.
Ein Gwledigaeth
Conwy – Sir flaengar sy’n creu cyfleoedd
Rydym yn gweithio mewn amgylchedd sy'n newid ac un lle mae llawer o alw arnom. Ein gweledigaeth yw bod yn flaengar wrth reoli newid a'i ddefnyddio i greu cyfleoedd; i warchod yr hyn sydd gennym ni, ac adeiladu oddi ar hynny er mwyn ymateb i newid. Mae'r weledigaeth hon yn ymdrech ar y cyd.
Ein Gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn cynrychioli credoau ein sefydliad a'r ymddygiad a ddisgwyliwn gan bawb sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
- Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith
- Rydym yn deg â phawb
- Rydym yn arloesol
- Rydym yn gweithio fel tîm
Ein Blaenoriaethau
- Mae pobl yng Nghonwy’n gwerthfawrogi ac yn edrych ar ôl yr amgylchedd
- Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir gydag economi lewyrchus gyda diwylliant yn ganolog iddi
- Mae Pobl yng Nghonwy wedi’u haddysgu ac yn fedrus
- Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywyd.
- Mae pobl yng Nghonwy'n ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel
- Mae pobl yng Nghonwy yn iach
- Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir ble mae’r Gymraeg yn ffynnu, a gall pobl gymryd rhan mewn pob agwedd ar fywyd cymunedol yn Gymraeg
- Mae pobl yng Nghonwy yn cael gwybodaeth, yn cael eu cynnwys ac yn cael llais a gallant gyfrannu at gymuned ble mae eu cefndir a’u hunaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i barchu.
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wydn
Dogfennau
Cynllun Corfforaethol 2022-2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (BSL)
Fideo BSL:
Cofiwch fod y sgwrs yn parhau