Mae'r Cynllun Corfforaethol 2012-2017 yn dynodi'r blaenoriaethau gwelliant ar gyfer yr Awdurdod uwchlaw a thu hwnt i'r ddarpariaeth gwasanaeth o ddydd i ddydd. Y blaenoriaethau hyn yw'r ffocws i'r Cyngor cyfan.
Bob blwyddyn erbyn 31 Hydref byddwn yn cyhoeddi Adolygiad Blynyddol a fydd yn manylu sut byddwn wedi datblygu yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol wrth gyflawni'r ymrwymiadau rydym wedi'u gwneud yn y Cynllun Corfforaethol. Bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys gwerthusiad o'n llwyddiannau allweddol, mesurau perfformio a'r meysydd lle rydym angen gwneud gwelliannau pellach.
Byddwn yn adolygu'r Cynllun hwn yn flynyddol i sicrhau ei fod yn aros yn berthnasol ac yn addas i'r gofynion cymunedol a cyllidebol.
Cofrestrau risg: Mae'r Cyngor yn darparu amrediad eang o wasanaethau, ac er mwyn sicrhau ein bod yn eu rheoli'n effeithiol rhaid i ni ddeall y risgiau'r ydym yn eu hwynebu, a'u rheoli'n briodol. Bydd hyn yn gymorth i benderfynu'n effeithiol a chyfrannu at gyflawni'n Cynllun Corfforaethol.
Mae risgiau corfforaethol yn cael eu monitro a'u cofnodi ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol. Mae'r gofrestr hon yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan Uwch Reolwyr ac Aelodau a hefyd yn cael ei herio gan ein rheoleiddwyr allanol.
Mae risgiau gwasanaeth yn cael eu monitro a'u cofnodi ar gofrestrau risg gwasanaeth. Mae'r cofrestrau risg yn cael eu monitro a'u diweddaru fel rhan o broses adolygu perfformiad gwasanaeth.
Cynlluniau gwasanaeth: Mae bob maes Gwasanaeth yn ysgrifennu Cynllun Gwasanaeth blynyddol. Pwrpas y Cynllun Gwasanaeth yw galluogi'r awdurdod, a dinasyddion/cwsmeriaid, i gael trosolwg o'r hyn y mae pob maes gwasanaeth yn bwriadu ei gyflawni mewn blwyddyn ariannol a'r canlyniadau y gall dinasyddion eu disgwyl os ydynt yn llwyddiannus. Mae'r cynlluniau Gwasanaeth wedi'u cysylltu â'r Cynllun Corfforaethol a'r Strategaeth Gymunedol. Maent yn dangos pa weithredoedd sydd i'w cyflawni gan bob gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol bresennol. Bydd cynhyrchu'r Cynllun Gwasanaeth yn ymdrech ar y cyd rhwng Penaethiaid Gwasanaeth a'u rheolwyr tîm. Bydd cynnydd a wneir ar y cynllun gwasanaeth yn cael ei fonitro fel rhan o'r Broses Adolygu Perfformiad Gwasanaeth bob 6 mis.