Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Hysbysiad ynglŷn ag Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio
Rhoddir rhybudd drwy hyn, yn unol ag Adran 18C Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y Cyngor) yn cynnal adolygiad o’i ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio.
Gellir dod o hyd i wybodaeth berthnasol a mapiau mewn perthynas â’r trefniadau a’r cynigion cyfredol ar gyfer newidiadau ar wefan y Cyngor, neu gellir eu harchwilio ym Modlondeb, Ffordd Bangor, Conwy, LL32 8DU.
Bydd y Swyddog Canlyniadau Gweithredol ar gyfer etholaeth Seneddol Bangor Aberconwy’n cynnig sylwadau ar y cynigion. Bydd y sylwadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar gael i’w harchwilio ym Modlondeb, Ffordd Bangor, Conwy LL32 8DU, yn unol â’r amserlen a amlinellir isod.
Gall etholwyr o fewn ardal y Cyngor neu o fewn etholaeth Seneddol y DU sydd ag unrhyw ran yn yr awdurdod gyflwyno sylwadau. Gwahoddwn sylwadau gan unrhyw etholwyr yn ymwneud â hwylustod y broses bleidleisio bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio yn ystod etholiadau a byddem hefyd yn croesawu awgrymiadau ar gyfer safleoedd amgen.
Byddai’r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed barn trigolion, yn arbennig trigolion anabl, neu unrhyw un sydd ag arbenigedd mewn mynediad ar gyfer unigolion gydag unrhyw fath o anabledd, ar y cynigion, sylwadau’r Swyddog Canlyniadau Gweithredol neu unrhyw faterion perthnasol eraill.
Fe ddylai unrhyw un sy’n gwneud sylwadau, lle bo modd, gynnig lleoliadau amgen y gellid eu defnyddio fel mannau pleidleisio.
Gellir cyflwyno sylwadau fel a ganlyn:
Dylid cyflwyno unrhyw sylwadau erbyn dydd Gwener, 10 Tachwedd, 2023.
Amserlen
Pryd | Cam |
19 Hydref 2023 |
Cyhoeddi hysbysiad ffurfiol o’r adolygiad |
19 Hydref 2023 |
Dechrau’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus |
10 Tachwedd 2023 |
Diwedd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus |
7 Rhagfyr 2023 |
Ystyriaeth o’r cynnig terfynol gan y Cyngor |
12 Ionawr 2024 |
Cyhoeddi’r gofrestr etholwyr ddiwygiedig |
Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi gan y Cyngor ym mis Ionawr 2024 ac ar gael i’w archwilio ar wefan y Cyngor ac ym Modlondeb, Ffordd Bangor, Conwy LL32 8DU.
Dylai unrhyw un sy’n cyflwyno sylwadau fod yn ymwybodol, ar ôl cwblhau’r adolygiad, bod yn rhaid i unrhyw ohebiaeth a sylwadau a dderbynnir gael eu cyhoeddi yn unol â’r gyfraith.
Dyddiedig:
19.10.2023
Rhun ap Gareth
Prif Weithredwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy