Diffyg cydymffurfiaeth gyda’r rheoliadau hygyrchedd
Ceisiadau trydydd parti
Rydym yn ymwybodol nad yw’r systemau trydydd parti canlynol yn cydymffurfio’n llawn gyda'r safonau hygyrchedd a defnyddioldeb, gan eu bod tu hwnt i’n rheolaeth:
- Ffurflenni ar-lein
- System Wybodaeth Ddaearyddol (Mapiau) (mapiau@conwy.gov.uk)
- Gwneud cais am swyddi gwag (iTrent)
- System taliadau
- System catalog y llyfrgell
- Y Porth Cynllunio
- Cofnodion a rhaglenni Pwyllgorau
- Mapiau ar-lein
- System Porth Treth y Cyngor
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein ceisiadau trydydd parti ac yn gweithio gyda chyflenwyr i wella hygyrchedd y systemau hyn.
Dogfennau Adobe PDF a Word
Nid yw rhai o'n dogfennau PDF a Word a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2018 yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrin.
Ein nod yw disodli dogfennau PDF a Word ar ein gwefan gyda thudalennau HTML hygyrch lle y bo’n bosibl.
Wrth ystyried a allwn ddarparu'r wybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu’r canlynol:
- faint fyddai'r gwaith yn ei gostio a'r effaith y byddai cyflawni'r gwaith yn ei chael arnom
- faint fyddai defnyddwyr ag anabledd yn elwa o wneud y gwaith