Conwy Scene Family-01
Cydbwysedd Gwaith / Bywyd
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd gwaith / bywyd cadarnhaol ac iach.
Bydd ein gweithwyr ni yn cael 8 gŵyl banc y flwyddyn a hawl i'r gwyliau canlynol:
- Ar ôl penodi - 26 diwrnod
- Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus - 31 diwrnod
- Ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth parhaus - 33 diwrnod
- Penaethiaid Gwasanaeth/Cyfarwyddwyr Strategol - 33 diwrnod
Bydd gwyliau blynyddol a gwyliau banc gweithwyr rhan amser yn cael eu cyfrifo ar sail pro rata. Mae pro rata yn golygu bod eich gwyliau’n cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y nifer o oriau rydych yn gweithio.
(Gall Athrawon a Gweithwyr Ieuenctid amrywio)
Yn dibynnu ar eich swydd, gallech hefyd fanteisio ar rai o'r opsiynau gweithio hyblyg yn cynnwys:
- Rhannu Swydd, gweithio oriau llai a rhan amser
- Contractau tymor ysgol yn unig
- Oriau cywasgedig
- Cynllun oriau hyblyg
- Polisi sy’n ystyriol o deuluoedd a pholisi absenoldeb arbennig
Cycling
Iechyd a Lles
Mae eich Iechyd a’ch lles chi yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant lle caiff iechyd a lles gweithwyr ei gefnogi.
I'ch helpu, rydym yn cynnig:
- Tâl salwch galwedigaethol
- Mynediad am ddim 24/7 i Raglen Cymorth Gweithwyr sy’n darparu cyngor a chwnsela
- Mynediad am ddim i ap lles rhyngweithiol Eich Gofal
- Prawf llygaid am ddim a sbectolau i ddefnyddwyr Offer Sgrin Arddangos
- Aelodaeth Ffit Conwy am bris gostyngol
- Cynllun Prydles Beicio i'r Gwaith* i gael mynediad at arbedion gwych wrth wella iechyd
- Polisi Rheoli Presenoldeb cynhwysfawr i gefnogi a chynorthwyo unigolion yn y gwaith, yn ystod cyfnodau o absenoldeb salwch ac wrth ddychwelyd i'r gwaith.
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
- Mynediad at Ffisiotherapi Mynediad Cyflym
- Cynlluniau gofal iechyd arian yn ôl
- Polisïau a chynlluniau lles
ConwyVoiceGuide
Arian a ffordd o fyw
Rydym eisiau eich helpu i gael y gorau o’ch arian a’ch ffordd o fyw.
- Strwythur cyflogau cystadleuol gyda thaliadau chwyddo am weithio ar benwythnosau / oriau anghymdeithasol
- Cynllun gwyrdd i brydlesu car*
- Caiff pob gweithiwr ei gynnwys yn awtomatig mewn Cynllun Pensiwn priodol i helpu i gynllunio ar gyfer eich dyfodol
- Gostgyngiadau ar gyfer teithio ar fysiau Arriva
- Cyngor ac adnoddau lles ariannol i'ch helpu i wneud o mwyaf o'ch arian
- Mae Gwobrau Conwy yn siop un stop ar gyfer pob un o fuddion staff, gostyngiadau manwerthu a hamdden Conwy gan gynnwys siopau'r stryd fawr, talebau rhodd gostyngol ac arbedion sinema, a Cherdyn Vectis Digidol ac ap i'ch helpu i arbed arian gan ddefnyddio gostyngiadau ar-lein a gostyngiadau mewn siopau.
* mae meini prawf cymhwyso'n berthnasol i rai o'r cynlluniau
Meeting
Gwobrau a Chydnabyddiaeth
Rydym am i'n holl weithwyr ragori yn eu rolau a datblygu eu gyrfa gyda ni.
- Awgrymiadau Staff er mwyn i leisiau gael eu clywed.