CP
Ein Gweledigaeth... Sir Flaengar sy'n Creu Cyfleoedd
Rydym yn gweithio mewn awyrgylch sy’n newid ac sy’n gofyn llawer. Ein gweledigaeth yw bod yn flaengar wrth reoli newid a’i ddefnyddio i greu cyfleoedd; i warchod yr hyn sydd gennym ac i adeiladu ar hyn er mwyn delio â newid. Mae’r weledigaeth yn ymdrech a rennir.
Rydym eisiau cryfhau ein perthynas gyda dinasyddion fel y gallwn gydweithio i wella’r sir. Ym mhopeth a wnawn, o addysgu plant, gofalu am bobl ddiamddiffyn, ailgylchu gwastraff, rheoleiddio busnesau a darparu cyfleusterau hamdden a pherfformiadau yn y theatr i enwi ond rhai, rydym eisiau bod yn flaengar ac yn greadigol fel y gallwn wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael i gymunedau o fewn sir Conwy.
Mae Ein Gwerthoedd…
Yn cynrychioli credoau ein sefydliad a’r ymddygiad a ddisgwylir gan ein gweithwyr ac rydym yn disgwyl i bawb sy’n cael eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddangos y gwerthoedd hyn yn eu gwaith:
care Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith
fair Rydym yn deg â phawb
innovative Rydym yn arloesol
team Rydym yn gweithio fel tîm
Cynllun Corfforaethol 2022-2027
Mae Cynllun Corfforaethol 2022-27 yn nodi ein gwerthoedd a’r meysydd blaenoriaeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau canolbwyntio arnynt dros y pum mlynedd nesaf. Datblygwyd y blaenoriaethau drwy drafod gyda chymunedau drwy ‘Sgwrs y Sir’.
Conwy fel Cyflogwr
Yng Nghonwy, rydym yn ymfalchïo mewn gwella ein gwasanaethau’n barhaus ac rydym yn cydnabod mai ein gweithwyr yw ein hased pwysicaf. Rydym am i chi fwynhau gweithio i Gonwy, ac ein nod yw eich cefnogi a buddsoddi ynddoch chi a’ch gyrfa, fel eich bod elwa o’ch diwrnod gwaith, a gwneud cyfraniad gwerthfawr i lwyddiant Conwy. Rydym yn ymgeisio i fod yn gyflogwr dewisol gan ddarparu ystod eang o fuddion i’n cyflogwyr sy’n ein helpu i sicrhau ysgogiad ac ymgysylltiad ein gweithlu. Rydym yn cydnabod ac yn gweithio mewn partneriaeth â thri undeb llafur.
Ein nod yw bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dda ar bopeth a wna, a bod yr holl ystod o wasanaethau rydym yn eu darparu o ansawdd uchel. Rydym eisiau bod yn sefydliad sy’n elwa o amrywiaeth ein cymuned hefyd. I wireddu’r nod, rydym yn ymwybodol nid yw hyn am gydymffurfio â’r gyfraith yn unig, ond mae’n cynnwys adnabod a gwerthfawrogi bod pawb yn wahanol, a thrin pawb yn deg.
Rydym eisiau cynnal diwylliant parchus lle mae gwerth pawb yn cael ei adnabod ni waeth eu hoedran, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chredoau, a sicrhau cydraddoldeb ar draws pob maes. Rydym yn gyflogwr sensitif ac yn llawn cydymdeimlad sydd eisiau creu cymdeithas deg lle gall pawb gyflawni ei llawn botensial beth bynnag fo’u hunaniaeth.