Mae’r ddelwedd isod yn rhoi cipolwg o’r hyn rydym yn ei wneud yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn diwrnod, mewn wythnos, mewn mis ac mewn blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau Conwy'n cael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd pobl leol. Casglu sbwriel y cartref, ysgolion y plant, y canolfannau hamdden y mae pobl yn eu defnyddio i gadw'n heini, gofal i bobl dan anfantais, safonau hylendid y bwytai lleol, yr amrediad o ddeunyddiau cyfeirio yn y llyfrgell leol – cyfrifoldeb y Cyngor yw'r holl bethau hyn a llawer mwy y tu hwnt. Dyma ein gwasanaethau rheng flaen, sy’n darparu ar gyfer y gymuned leol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Mae gennym hefyd amrywiaeth o wasanaethau cefnogi sy’n gweithio i sicrhau bod ein gweithwyr yn cael eu talu, bod y dechnoleg gennym i wneud ein gwaith, ein bod yn gweithio’n ddiogel, bod y gwaith a wnawn o fewn y gyfraith a’n bod yn atebol am yr hyn a wnawn. H.y. Adrannau’r Gyflogres, AD, TG, y Gyfraith ac Iechyd a Diogelwch.
I gael gwybod mwy am bob un o’n meysydd gwasanaeth a’r hyn a wnânt, cliciwch ar enw’r gwasanaeth dan ‘yn yr adran hon’.